Honiad fod y Brenin wedi dweud y byddai ei deulu'n 'anghofio Diana'n ddigon buan'
Mae Palas Buckingham wedi ymateb i honiadau gan yr Iarll Spencer, brawd y ddiweddar Dywysoges Diana, mewn llyfr newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol y gall "galar brawd gymylu rheswm".
Yn ei lyfr newydd mae'r Iarll yn honni fod y Brenin Charles, oedd yn Dywysog Cymru ar y pryd, wedi dweud wrtho ddyddiau yn unig ar ôl marwolaeth Diana: "byddwch yn dawel eich meddwl, fe fyddwn ni'n anghofio amdani yn ddigon buan".
Digwyddodd hyn yn ystod trafodaeth am drefniadau'r angladd, lle cerddodd y Tywysog William a'r Tywysog Harry, oedd yn 15 ac yn 12 oed ar y pryd, tu ôl i arch eu mam.
Mewn ymateb i'r honiadau mewn cofiant gan yr Iarll Spencer ac sy'n cael ei gyhoeddi ar ffurf cyfres yn y Daily Mail, dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham fod Charles yn ymwybodol y gall "poen galar brawd gymylu rheswm".
'Poen galar'
Mewn datganiad, dywedodd Palas Buckingham: "Er nad ydym yn gwneud sylwadau ar lyfrau fel mater o egwyddor, mae Ei Fawrhydi yn ymwybodol y gall poen galar brawd gymylu rheswm, effeithio ar farn ac effeithio ar sut y cofir pethau mewn ffyrdd nad yw eraill yn eu cydnabod, hyd yn oed flynyddoedd lawer ar ôl colled o'r fath."
Yr honiad yw fod Charles wneud y sylwadau am ei gyn-wraig yn ystod anghydfod dros drefniadau'r angladd, ac iddo gwestiynu ymdeimlad teulu Spencer o ddyletswydd.
Honnir i'r Iarll bwysleisio wrth y Tywysog Cymru ar y pryd na fyddai Diana wedi dymuno i'w meibion ifanc gymryd rhan yn y daith gerdded gyhoeddus honno yn ystod yr angladd.
'Anwirioneddau'
Yn ôl y papur newydd, dywed yr Iarll Spencer fod y llyfr 'Swan Song: Diana, My Sister' wedi'i ysgrifennu i gywiro "anwirioneddau" gafodd eu dweud am ei chwaer hŷn, a fu farw mewn damwain car ym Mharis ym mis Awst 1997.
Yn ôl dyfyniad o'r llyfr, dywedodd un o gynorthwywyr hŷn y Frenhines Elisabeth II wrtho y byddai William a Harry yn cerdded yn yr orymdaith angladdol, ac fe ddywedodd yr Iarll mewn ymateb: "ni fydd hynny'n digwydd".
Mae'n honni fod Charles wedi ei ffonio funudau'n ddiweddarach a dweud wrtho ei fod ef ei hun wedi cerdded yn angladd ei hen ewythr, yr Arglwydd Mountbatten, 18 mlynedd ynghynt.
Dywedodd yr Iarll fod Charles yn 30 oed ar adeg angladd yr Arglwydd Mountbatten ym 1979.
Llun: PA