'Hollbwysig' darparu sesiynau iechyd meddwl ar gyfer ffermwyr ifanc

'Hollbwysig' darparu sesiynau iechyd meddwl ar gyfer ffermwyr ifanc

Mae darparu sesiynau iechyd ar gyfer ffermwyr ifanc yn "hollbwysig."

Dyna farn rhai myfyrwyr Coleg Sir Gâr wrth iddyn nhw dderbyn sesiynau ar gampws Gelli Aur yr wythnos hon.

Mae ymchwil newydd yn dangos fod lles meddyliol ffermwyr yn y DU ar ei lefel isaf ers pedair blynedd.

Roedd 47 o ffermwyr wedi dod â'u bywyd i ben yn 2024, sef cynnydd o 7% o gymharu â 2022 yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Tomos Samuel, 21 oed yn gweithio ym Marchnad Caerfyrddin, ac yn dweud ei fod yn gweld llawer o ffermwyr ar eu pen eu hunain yno.

"Ma’ ishe ystyried hefyd ti’mod y pobl henach yfe?" meddai wrth Newyddion S4C.

"Fi’n gweld lot o’r bois ‘na ar ben eu hunain a gallen i byth dychmygu chi’mod y bywyd sy’ gyda’r bois ‘na, gweithio trwy’r dydd bron a bod chi’mod, amser ‘ma o’r flwyddyn, trwy’r nos.

"A bod nhw ar ben eu hunain â neb i siarad â.

"Ma’ llefydd fel y mart ti’mod mor gyfleus i’r bois ‘na i gallu mynd i gael chat yfe?"

Image
Tomos a'i gyd-fyfyrwyr yn ystod y sesiwn
Tomos a'i gyd-fyfyrwyr yn ystod y sesiwn

Ychwanegodd Mr Samuel bod sgyrsiau rhwng ei ffrindiau ag e am iechyd meddwl yn rhywbeth prin.

"Fi’n credu ma bois yn trial osgoi’r pwnc ‘na dim achos bo’ nhw’n gweld bod e’n pwnc eitha’ sensitif i siarad ambiti mewn ffordd.

"Fi’n credu bod jyst pethe arall ar meddyliau ni ti’mod? Tyfu lan, yr oedran ‘yn ni nawr yfe? Mae bach yn gwahanol."

'Cydnabod arwyddion'

Mae'r sesiynau hyfforddi yn cael eu darparu gan elusen Samariaid Cymru.

Mae'r elusen wedi bod yn gweithio gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc ar draws Cymru "i dorri cylch risg hunanladdiad mewn cymunedau cefn gwlad ar draws Cymru."

Nod yr hyfforddiant yw "cydnabod arwyddion, deall y risg a datblygu'r sgiliau a hyder" i siarad â rhywun sydd yn risg hunanladdiad.

Yn ystod y cwrs mae gan y myfyrwyr cyfle i drafod teimladau eu hunain a gwneud gweithgareddau er mwyn deall mwy am wrando a sut i gynnig cymorth i bobl.

Dywedodd rhai oedd wedi mynychu'r sesiwn yng Ngelli Aur bod yr hyfforddiant yn gwneud iddyn nhw sylwi bod ffyrdd o ddelio gyda phroblemau iechyd meddwl.

"So ti’n gwybod beth ma’ rhywun yn mynd trwy," meddai Hafwen Rees o Sir Benfro.

"So i pobl i dod fan hyn ma’ nhw’n falle gallu fel sylweddoli ‘o fi yn gallu siarad ‘da pobl mwy’, a trial sorto fe mas ffor’ ‘na wedyn.

"A falle gweld ffordd o dod fel rownd i siarad ‘da pobl wedyn ’fyd."

Ychwanegodd Menna Bennett, 18 oed o Lanymddyfri: "Ma’n bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl o fewn amaeth.

"A hefyd dysgu rhywbeth newydd amdano sut i delio gyda iechyd meddwl."

Image
Hafwen Rees a Menna Bennett
Hafwen Rees a Menna Bennett

Beth sy'n poeni ffermwyr ifanc?

Mae naw allan o 10 o ffermwyr yn dweud mai iechyd meddwl yw'r "broblem gudd fwyaf" yn y diwydiant ar hyn o bryd.

Daw hyn o ganlyniad i sawl ffactor, medd amaethwyr, gan gynnwys y dreth etifeddiant, costau cynyddol a thywydd eithafol.

Un peth sydd ar flaen meddyliau ffermwyr ifanc yw'r dreth etifeddiant.

Dan gynlluniau Lywodraeth Lafur y DU fe fydd asedau amaethyddol gwerth mwy na £2.5m yn cael eu trethu ar gyfradd o 20%.

Hefyd fe fydd modd i berson sy'n briod neu bartneriaid sifil drosglwyddo hyd at £5 miliwn mewn asedau amaethyddol neu fusnes cymwys cyn talu treth etifeddiant.

Dywedodd Menna Bennett bod gweld straeon newyddion am y dreth etifeddiant yn gwneud iddi "bryderu" am y dyfodol.

"Galle arian dod mewn i fe gyda’r treth etifeddiant," meddai.

"Pryderu am y dyfodol, fel, sut 'yn ni mynd i cario ‘mlaen ffarmo, fel merch sy’n edrych mynd mewn i redeg ffarm yn y dyfodol.

"Ti’n gweld e ar y teledu yn cael ei siarad amdano a pobl yn codi ymwybyddiaeth amdano fe, so ti yn cael ambell i sgwrs amdano fe achos bod e yn rhywbeth i siarad amdano."

Image
Protest ffermwyr yn Llundain fis Rhagfyr 2025. Llun: Gareth Fuller/PA
Protest ffermwyr yn Llundain fis Rhagfyr 2025. Llun: Gareth Fuller/PA

Ychwanegodd Tomos Samuel o'r Tymbl fod sawl peth yn poeni pobl ifanc.

“Ma’ shwt gymaint o bethau fel y treth etifeddiant, ma’ hwnna’n ffactor fowr sydd yn dod mewn i’r sector amaeth," meddai.

“Fi’n credu bod TB fyd, ma’ rhifau wedi cynyddu dros y cwpl o flynyddau diwethaf.

“S’dim sicrwydd, dyna’r broblem. Ti ffili cael unrhyw fath o guarantee o be’ sydd mynd i ddod."

'Rhannu neges'

Dros yr wythnosau nesaf fe fydd Samariaid Cymru yn parhau i deithio ar draws Cymru yn darparu sesiynau i ffermwyr ifanc.

Er mai'r to iau sydd yn derbyn y sesiynau, gobaith y Samariaid yw bod y neges yn cael ei rhannu gyda ffermwyr hŷn hefyd.

" ‘Dan ni’n trio cyrraedd atyn nhw i gael y neges atyn nhw am bwysigrwydd wybod lle i droi pan ma’ nhw’n teimlo’n isel neu yn teimlo wrach yn, fel hunanladdio ‘llu," meddai Swyddog Prosiect Ffermio Samariaid Cymru, Sian Jones.

"Y pwrpas hefyd ydy iddyn nhw rannu’n neges efo aelodau hŷn o’u teuluoedd a’u cymdeithas achos ma’ nhw’n fobl anoddach i gyrraedd.

"Felly mae ffermwyr ifanc yn haws i siarad efo nhw, ac y gobaith ydy ‘nawn nhw rannu’n neges efo gweddill cymdeithas.

"Ma' nhw'n dysgu am adnabod rhai o'r arwyddion pan ma rhywun yn teimlo'n isel, a sut i ymateb i hynny.

"Bod nhw ddim yn dychryn ac yn gallu help, ond dim mewn ffordd cwnsela, ond fel cyfeillion a chyfoedion."

Os yw materion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael yma.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.