HMS Dragon wedi dechrau ei thaith i Fôr y Canoldir
Mae un o longau'r Llynges Frenhinol bellach wedi dechrau ei thaith i Gyprus.
Mae HMS Dragon wedi dechrau ei thaith i ddwyrain Môr y Canoldir i ymuno ag ymdrech amddiffynnol y DU yn y rhanbarth.
Gadawodd y llong 'Destroyer Math 45' ei safle parhaol yn Portsmouth brynhawn Mawrth, ar ôl cyfnod o waith cynnal a chadw yn ddiweddar.
Dyma fydd llong ryfel gyntaf ac unig long ryfel y DU yn y rhanbarth, ac mae disgwyl iddi gyrraedd tuag wythnos i gwblhau ei thaith.
Daw hyn ychydig oriau yn unig, ar ôl i'r llywodraeth osod llong gymorth yr Awyrlu, Lyme Bay, ar "barodrwydd uwch," rhag ofn bydd angen ei hanfon i gefnogi dinasyddion Prydeinig yn y Dwyrain Canol.
Prif rôl HMS Dragon fydd amddiffyn safle RAF Akrotiri, gan fod y ganolfan filwrol o eiddo'r DU wedi ei tharo gan un o ddronau Iran yn gynharach yn y mis.