Heddlu'r De nawr 'yn llai effeithiol' wrth atal a rhwystro troseddu
Mae Heddlu De Cymru wedi dod yn llai effeithiol wrth atal a rhwystro troseddu, yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau.
Dywedodd Arolygydd Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) hefyd fod angen i’r llu wella sut mae’n ymateb i alwadau gan aelodau o’r cyhoedd.
Fe raddiodd HMICFRS berfformiad y llu dros wyth maes plismona. Daeth i’r casgliad fod ei berfformiad yn “ddigonol” mewn pedwar maes, ond bod “angen gwella” yn y pedwar arall.
Daeth hefyd i’r casgliad fod achosion lle nad oedd y cyngor cywir ar atal troseddu a diogelu pobl yn cael ei ddarparu yn codi’n “rhy aml.”
Yn ôl yr adroddiad, mae'r heddlu wedi cyflwyno proses graffu i wella ymchwiliadau troseddol.
Fodd bynnag, fe daeth arolygwyr i’r canfyddiad nad yw'r gwaith hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr ymchwiliadau na'r ffordd maen nhw’n cael eu goruchwylio.
Er i'r arolygwyr ganfod bod yr heddlu yn hyfforddi timau plismona cymdogaeth yn “effeithiol,” dywedon nhw bod agweddau eraill ar blismona cymdogaeth - gan gynnwys datrys problemau - wedi dirywio.
Ar yr un pryd, dywedodd HMICFRS bod arweinwyr y llu yn “blaenoriaethu diogelu pobl agored i niwed,” a bod cynnydd hefyd wedi bod yn y defnydd o orchmynion ataliol i amddiffyn dioddefwyr.
Disgrifiwyd trefniadau llywodraethu’r heddlu fel rhai “cryf” gyda chyllid wedi'i gysylltu'n “amlwg” â blaenoriaethau gweithredol. Canmolwyd Heddlu De Cymru hefyd am ei “ddull arloesol o wella diwylliant y gweithlu a mynd i'r afael â misogyni.”
Dywedodd yr arolygwyr bod y llu’n “cynnal ymrwymiad i recriwtio gweithlu amrywiol ac, [yn un mor] mor bwysig, annog pobl i barhau i weithio iddo.”
'Ddim mor effeithiol'
Dywedodd Kathryn Stone OBE o HMICFRS ei bod yn "fodlon â pherfformiad Heddlu De Cymru yn ei arweinyddiaeth a rheoli lluoedd ac o ran agweddau ynglŷn â sut mae’n diogelu pobl sy’n agored i niwed." Ond ychwanegodd nad oedd wedi gwneud y "gwelliannau disgwyliedig."
“Ers ein harolygiad diwethaf, nid yw’r llu wedi gwneud y gwelliannau disgwyliedig yn y ffordd y mae’n ymateb i alwadau gan y cyhoedd ac yn ymchwilio i droseddau ar ran dioddefwyr.
“Nid yw’r llu mor effeithiol wrth ddefnyddio pwerau’r heddlu yn deg ac yn briodol, nac yn ei waith i atal a rhwystro troseddu ag yr oeddem yn gallu adrodd yn ein harolygiad blaenorol.”
Ychwanegodd: "Rwy'n optimistaidd y bydd Heddlu De Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i'n canfyddiadau.
“Mae ganddo’r arweinyddiaeth, y llywodraethu a’r prosesau sydd eu hangen arni i wneud y gwelliannau angenrheidiol… Rhaid i’r rhain nawr gyfieithu i ymarfer effeithiol.”
'Un o nifer' o adroddiadau
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan, y byddai’r canfyddiadau’n cael eu defnyddio i ysgogi gwelliannau pellach.
"Er bod yr adroddiad yn nodi meysydd lle mae angen gwneud mwy o gynnydd, mae hefyd yn bwysig nodi ei fod yn un o nifer o adroddiadau diweddar, ac y dylem ystyried ei ganfyddiadau ochr yn ochr â’r asesiadau diweddar eraill hyn.
“Asesodd yr arolygiad HMICFRS o Droseddau Difrifol a Threfnedig, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2026, Heddlu De Cymru fel un da. Asesodd yr arolygiad Diogelu Plant, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025, Heddlu De Cymru fel un da hefyd.
“Rydyn ni hefyd wedi cael ein rhoi yn y haen uchaf o heddluoedd yn y fframwaith perfformiad cenedlaethol newydd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Vaughan fod pobl yn Ne Cymru yn llai tebygol o ddioddef trosedd ac yn fwy tebygol o weld trosedd yn cael ei datrys nag mewn “llawer o rannau eraill o’r DU”.
Dangosodd y ffigurau diweddaraf o Arolwg Troseddau Lloegr a Chymru fod gan Heddlu De Cymru y “risg isaf a ganfyddir o droseddau personol ac yn y cartref” o’i gymharu â 41 o ardaloedd heddlu eraill.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl: “Mae ein canlyniadau cyffredinol yn dangos bod gennym lawer i’w wneud, ond bod gennyn ni sylfeini cadarn yn eu lle wrth i ni barhau i gryfhau’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n cymunedau.
“Mae gan ein cymunedau ddisgwyliadau uchel ohonon ni ac mae hynny’n hollol briodol; felly mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r canfyddiadau fel sail i ysgogi gwelliannau pellach i’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
“Ein ffocws nawr yw cyflawni’r gwelliannau hyn, gan adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud a sicrhau bod pobl De Cymru yn cael y safon uchel o wasanaeth y maen nhw yn ei haeddu.”
Prif lun: ITV Cymru
