Heddlu Gogledd Cymru yn lansio tîm cymorth achub mynydd 'cyntaf o’i fath'

Achub Mynydd

Mae 20 o swyddogion yn rhan o dîm newydd sydd wedi’i sefydlu i gefnogi achubwyr mynydd mewn digwyddiadau lle mae angen sgiliau plismona.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud mai ei Dîm Cymorth Achub Mynydd yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru a Lloegr, a’i fod eisoes wedi cael ei ddefnyddio.

Bydd y swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â thimau achub mynydd a’r gwasanaethau brys mewn digwyddiadau sy’n ymwneud â phobl fregus neu sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus mewn mannau anodd eu cyrraedd.

Mae hynny’n cynnwys digwyddiadau lle gallai rhywun fod mewn perygl o niweidio ei hun neu eraill.

Bydd y swyddogion yn parhau yn eu swyddi arferol, ond gallan nhw gael eu hanfon fel rhan o’r tîm pan fydd angen eu sgiliau arbenigol.

Maen nhw wedi cael hyfforddiant pwrpasol sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â British Mountain Guides.

Bydd penderfyniad i ddefnyddio’r tîm yn cael ei wneud ar ôl trafodaeth rhwng yr heddlu a’r timau achub mynydd, pan fyddan nhw’n teimlo bod angen sgiliau plismona yn ogystal â sgiliau achub.

Dywedodd yr heddlu fod y galw ar dimau achub mynydd yn “sylweddol iawn” a’u bod weithiau’n dod ar draws pobl sydd angen cymorth ychwanegol mewn lleoliadau anodd eu cyrraedd.

Bu’r heddlu’n gweithio gyda Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Thîm Achub Mynydd Llanberis yn ystod camau cyntaf datblygu’r cynllun, ond mae timau eraill bellach yn rhan ohono hefyd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru**,** Amanda Blakeman: “Mae sefydlu tîm cymorth achub mynydd cyntaf yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn gam sylweddol ymlaen yn ein gallu i amddiffyn cymunedau ac ymwelwyr ar draws gogledd Cymru.

“Mae ein swyddogion yn gweithio’n rheolaidd yn rhai o amgylcheddau mwyaf heriol y wlad, a bydd y tîm pwrpasol hwn yn ein gwneud yn fwy effeithiol, yn gwella diogelwch y cyhoedd ac yn cryfhau ymhellach ein gwaith gyda thimau achub mynydd a’r gwasanaethau brys eraill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.