Heddlu arfog wedi eu galw i ddigwyddiad mewn ysbyty yn y de
Fe gafodd heddlu arfog eu galw i ysbyty yn y de brynhawn dydd Iau, yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi bod yn gwneud bygythiadau.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 13:20 "yn dilyn adroddiadau am fygythiadau tuag at berson yn yr adeilad.
"Mynychodd swyddogion arfog, ac yn dilyn ymholiadau, mae dyn 23 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud adroddiad ffug."
