Heddlu yn apelio am dystion wedi marwolaeth yn Y Trallwng

Ymchwiliad llofruddiaeth Y Trallwng

Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un oedd yn dyst i ddigwyddiad achosodd farwolaeth dyn yng nghanol tref Y Trallwng ddydd Sul i gysylltu â nhw.

Yn ôl y llu mae tudalen arbennig ar-lein wedi ei chreu ar gyfer pobl sydd gyda gwybodaeth all eu helpu gyda'u hymchwiliad.

Mae swyddogion yn awyddus i glywed gan bobl a welodd unrhywbeth yn ardal Stryd yr Eglwys o’r dref, yn ystod oriau man bore Sul rhwng 12.45 a 1.15.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 01.16 fore Sul wedi adroddiadau fod dyn 49 oed wedi ei anafu. Er ymdrechion y gwasanaeth ambiwlans fe fuodd y dyn farw yn y fan a'r lle.

Mae dyn 22 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa. 

Mae Heddlu Dyfed Powys eisiau clywed gan unrhyw un a welodd unrhyw aflonyddwch o gwmpas Stryd yr Eglwys rhwng 12.45 a 01.15 y bore. 

Maent hefyd eisiau llygad dystion i gysylltu os oes ganddynt fideo neu ddeunydd dashcam o'r digwyddiad neu'r bobl oedd yn ardal Stryd yr Eglwys yn yr amseroedd hyn ac unrhyw un a all adnabod pobl eraill oedd yn y lleoliad rhwng yr amseroedd yma. 

Fe ddylai pobl gysylltu meddai'r llu trwy'r wefan Public Portal, trwy ffonio 101, e-bostio'r heddlu neu anfon neges atynt trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae modd hefyd rhoi gwybodaeth yn anhysbys trwy gysylltu gyda Crimestoppers. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.