Caernarfon yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'r Oval ar ôl tymor 'heriol'
Caernarfon yn edrych ymlaen i ddychwelyd i'r Oval ar ôl tymor 'heriol'
Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn edrych ymlaen i groesawu pêl-droed yn ôl i'r Oval y tymor nesaf ar ôl “blwyddyn heriol” oddi ar y cae.
Er i’r Cofis ennill Cwpan Cymru a chyrraedd cystadleuaeth Cyngres Europa y tymor diwethaf, roedd yn dymor o deithio i gefnogwyr. Cafodd gemau cartref y clwb eu cynnal yn Llandudno.
Y rheswm am hynny oedd y gwaith a gafodd ei gwblhau i drawsnewid eu cartref gyda Phencampwriaeth UEFA Euro Dan 19 eleni mewn golwg.
Mae Caernarfon yn un o bedwar lleoliad sydd wedi’u dewis i gynnal gemau’r gystadleuaeth, gyda Wrecsam, Bangor a Dinbych.
Bydd tair gêm yn cael eu chwarae ar yr Oval gyda'r gyntaf rhwng Yr Eidal a Serbia brynhawn Llun. Mae Cadeirydd y clwb yn dweud bod yr holl waith caled wedi dwyn ffrwyth.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Paul Evans: “Oedd rhaid i ni adael yr Oval am y tymor diwethaf - doedd na'm dewis am hynna lly, a odd gymaint o waith yn mynd ymlaen yn y cae.
“Felly odd rhaid i ni neud y penderfyniad o wneud y gwaith a mynd i Landudno i chwarae, neu gwrthod y cyfle o gael y twrnament Ewropeaidd ma’ yma - a doeddan ni'n methu gwrthod i ddeud y gwir.
“Mae ‘na cost anferthol di bod ar hyn i gyd a'r colledion o beidio chwara adra felly. So mae wedi bod yn reit heriol ar y clwb i ddeud y gwir. Ond da ni di ymdopi yn reit dda.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith wedi ei gwblhau i wneud y cae yn wastad, i osod ystafelloedd newid newydd ac i godi eisteddle newydd. Mae'r eisteddle wedi’i henwi ar ôl y diweddar Wyn Davies, y cyn seren pêl-droed rhyngwladol o Gaernarfon.
Mae’r holl waith wedi costio tua £1.5 miliwn, gyda Sefydliad Pêl Droed Cymru, sy’n rhan o Gymdeithas Bêl-droed Cymru, yn darparu tua £1.1 miliwn. Mae'r clwb wedi cyfrannu tua £350,000.
Ychwanegodd Mr Evans: “Mae'r gwaith yma 'di dechra tua blwyddyn yn ôl. Y gwaith mwya' oedd ar y cae ei hun. Oedd na rediant o tua naw troedfedd o'r pen draw i'r gongl arall. Oedd o’n gyfle, yr unig gyfle gawn ni fwy na thebyg, i lefelu'r cae.
“Mae'r cae yma rŵan yn safon dipyn mwy na be oedd o, felly byddwn ni'n gallu cynnal mwy o gemau yma yn cynnwys merched a plant.
"Mae hynny'n rhywbeth doeddan ni ddim di gallu ‘neud oherwydd safon y cae cynt. Felly, da ni i gyd yn edrych ymlaen am hynny cymaint, mae o’n mynd i fod yn gyffrous iawn i ni fel clwb.”
'Creu atgofion'
Mae’r clwb yn gobeithio chwarae eu gêm yn rownd ragbrofol Cyngres Europa fis Gorffennaf yn yr Oval. Cyn hynny, bydd y dref yn croesawu sêr ifanc o bedair o gadarnleoedd y bêl gron yn Ewrop, sef Croatia, Serbia, yr Eidal ac Wcráin.
“Mae pawb yn edrych ymlaen i'r gemau Ewropeaidd yma. Da ni'n sôn am chwaraewyr o Ewrop sydd am mwy na thebyg fyddwn ni i gyd yn gweld yn Cwpan y Byd mewn ella pedair blynedd, wyth mlynedd.
“Mae 'na rhai chwaraewyr sy'n Cwpan y Byd ar hyn o bryd wedi chwarae yn gystadleuaeth o dan 19 Ewropeaidd. Mae o'n rhywbeth sbesial i ni.”
"Dwi'n teimlo ddim jyst i'r clwb ond hefyd i'r ardal ag y dre. Mae'n beth mawr i Gaernarfon achos mae pobl o bob man yn dod yma. Ond mae hefyd yn rhywbeth i'r ardal. Da ni ddim yn gweld yn hunain dim ond fel clwb i Gaernarfon.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2067922677977796638?s=20
"Da ni'n gweld ein hunain fel clwb Cymraeg i'r ardal fwya’ Cymraeg sydd yna. Felly, bydd o'n beth sbesial iawn i ni a hefyd i'r plant bach sy'n dod yma mewn blynyddoedd i ddod.
"Fyddan nhw’n gweld rhywun yn chwarae pêl-droed ar y teledu ag yn gallu dweud, ‘O welish i’r person yna pan oedd o'n ifanc chwarae ar yr Oval'. Beth arall fedrwch chi ofyn amdano fel cadeirydd clwb pêl-droed i i greu atgofion fel ‘na de."
Bydd holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Dan 19 yn cael eu dangos yn fyw ar-lein ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.
Bydd yr Eidal yn herio Serbia ar yr Oval yng Nghaernarfon am 16:00 brynhawn Llun.

