Hawliau newydd i warchod gyrwyr rhag dirwyon parcio 'annheg'

Dirwy parcio

Mae disgwyl i hawliau newydd gael eu rhoi i yrwyr i herio taliadau parcio preifat "annheg" yn ôl Llywodraeth y DU. 

O dan y rheolau newydd bydd gan yrwr bum munud i benderfynu a yw'r man parcio yn ddelfrydol.

Fe fydd modurwyr hefyd yn cael 10 munud i adael meysydd parcio heb wynebu cosb ar ôl i'w sesiwn barcio ddod i ben yn unol â chod ymarfer newydd ar gyfer parcio preifat.

Bydd y cod yn rhoi’r hawl i yrwyr apelio i ganslo dirwy ar ôl gwneud camgymeriad, gan gynnwys stopio’n gyflym i edrych ar gyfeiriadau, ac mewn sefyllfaoedd lle nad ydynt ar fai. 

Gallai y rheini gynnwys pan fydd cerbyd yn torri i lawr mewn maes parcio, argyfwng meddygol, neu os bydd peiriant tocynnau wedi torri, yn ôl yr  Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Camgymeriadau

Bydd gyrwyr sy’n gwneud camgymeriadau fel anghofio'u trwydded barcio, nodi rhif cofrestru eu cerbyd yn anghywir neu'n anghofio rhoi eu manylion mewn peiriant talu yn wynebu tâl o ddim mwy nag £20 ar apêl o dan y rheolau newydd.

Wrth groesawu’r newid, fe ddywedodd y Prif Weinidog Andy Burnham:

“Ni ddylai bod ychydig funudau’n hwyr yn dychwelyd i'ch car, na theipio un digid o’ch rhif cofrestru’n anghywir arwain at ddirwy sylweddol.

“Mae’r taliadau hyn yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu twyllo ac yn colli arian, felly dwi'n cael gwared â nhw.

“Rydym yn cyflwyno rheolau cliriach, cyfnodau gras hirach a thaliadau is am gamgymeriadau dilys, wrth fynd i’r afael â rhai o'r sgamiau bwriadol sy’n twyllo gyrwyr.” meddai.

Bydd y cod yn golygu na fydd dirwyon parcio preifat yn mynd y tu hwnt i £100. 

Data DVLA

Bydd cwmnïau parcio sydd ddim yn cydymffurfio yn wynebu’r risg o golli mynediad at ddata’r DVLA, meddai Llywodraeth y DU.

Ar hyn o bryd, mae cwmnïau parcio preifat yn defnyddio gwybodaeth am berchnogion cerbydau gan y DVLA i geisio casglu dirwyon parcio.

Cafodd y nifer uchaf erioed o docynnau parcio gan fusnesau preifat eu dosbarthu y llynedd hyd at ddiwedd mis Mawrth, oedd yn gyfanswm o 16.9 miliwn yn ôl data'r Llywodraeth gan y Press Association a’r elusen ymchwil moduro (Sefydliad RAC).

Mae hynny’n gynnydd o 14.4 miliwn o'r flwyddyn flaenorol, ac o 6.8 miliwn yn 2018/19.

Gall pob tocyn arwain at dâl o hyd at £100, sy’n golygu y gallai’r cyfanswm gaiff ei dalu gan yrwyr fod yn fwy na £4.6 miliwn y dydd ar y gyfradd bresennol.

Yn ôl y diwydiant parcio, mae mwy o feysydd parcio’n cael eu rheoli gan gwmnïau preifat a hynny sydd i gyfri am y cynnydd.

Bydd y cod ymarfer newydd ar gyfer parcio preifat yn cael ei roi ar waith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a bydd bwrdd goruchwylio ac adolygu cwbl annibynnol yn cael ei sefydlu am y tro cyntaf.

Bydd gofyn hefyd i gwmnïau parcio preifat gyflwyno data am eu dirwyon, a'u dull o ddelio ag apeliadau. Yna bydd y bwrdd yn craffu ar y wybodaeth honno.

'Cam i’r cyfeiriad cywir'

Dywedodd Simon Williams sy'n bennaeth polisi yr RAC bod y cod yn “gam i’r cyfeiriad cywir” o ran amddiffyn gyrwyr rhag arferion rhai cwmnïau parcio preifat, ond nad oedd yn “gam mor fawr” â’r un yr oedd y cwmni gwasanaethau moduro wedi bod yn ymgyrchu drosto.

Dywedodd: “Rydym wedi galw ers amser maith am wahardd asiantaethau adennill dyledion rhag ychwanegu ffioedd ychwanegol at hysbysiadau tâl parcio (PCNs), ac am un corff apeliadau annibynnol i gymryd lle’r ddau gorff sy’n cael eu rhedeg gan y diwydiant. Mae'n siom nad yw’r naill na’r llall wedi’u cynnwys.

“Wedi dweud hynny, mae’n dda bod gennym god o’r diwedd - saith mlynedd ar ôl i Ddeddf Cod Ymarfer Parcio Preifat ddod yn gyfraith.

“Bydd yn rhaid i'r cwmnïau rheoli meysydd parcio gydymffurfio â set newydd o reolau neu wynebu’r risg o golli mynediad at gronfa ddata’r DVLA, y maent yn dibynnu arni i roi PCNs i yrwyr.

“Gobeithio y bydd hyn yn atal llawer o yrwyr rhag cael tocynnau annheg yn y lle cyntaf.”

Dywedodd Nicholas Lyes, cyfarwyddwr polisi elusen IAM RoadSmart: “Mae’n dda gweld bod rheolau newydd i'w rhoi ar waith i yrwyr er mwyn eu hamddiffyn drwy un cod ymarfer. 

"Fodd bynnag, byddwn yn hoff o fod wedi gweld un system ar gyfer apelio a chamau gweithredu yn erbyn sefydliadau adennill dyledion yn rhan o’r pecyn.

“Yn y pen draw fe fydd angen i ni gyrraedd pwynt lle mae parcio preifat yn broses syml ac uniongyrchol, nid un sy’n llawn gwallau ac sy’n gadael gyrwyr i lawr," meddai.

Dywedodd Alison Tooze, prif swyddog polisi’r Gymdeithas Barcio Brydeinig, fod ei sefydliad yn “croesawu” y cod newydd sy’n “gam pwysig ymlaen i fodurwyr, cymunedau a gweithredwyr parcio cyfrifol”:

“Yn gyffredinol, mae’r cod yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng amddiffyniadau cryfach i fodurwyr a rheolaeth barcio effeithiol, gan helpu cymunedau, busnesau ac economïau lleol i barhau i weithredu,” ychwanegodd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn mynd i’r afael â gwerthwyr ceir ail-law sy’n troi clociau milltiroedd yn ôl mewn cerbydau.

Er bod gwerthu car sydd wedi cael ei “glocio” drwy dwyll eisoes yn anghyfreithlon, bydd yr arfer yn cael ei ychwanegu at restr swyddogol o arferion gwaharddedig, gan ei gwneud yn haws i’r awdurdodau gorfodi fynd i’r afael â'r drosedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.