Pen-y-bont: Dirgelwch wedi i'r heddlu ddod o hyd i berson ag anafiadau mewn car
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i berson gael ei ddarganfod gydag anafiadau mewn car oedd wedi taro yn erbyn wal - ond nid oedd yr anafiadau o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol Coity, Pen-y-bont ar Ogwr, am tua 12:43 ddydd Llun ar ôl derbyn adroddiad fod gwrthdrawiad wedi digwydd.
Ar ôl cyrraedd, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod fod y gyrrwr wedi dioddef anafiadau nad oedd yn ymddangos fel eu bod yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.
Cafodd y gyrrwr ei gludo i'r ysbyty ac roedd nifer fawr o swyddogion yr heddlu yn parhau yn ardal Ger-y-nant o'r dref nos Lun, wrth i swyddogion weithio i ddeall yr hyn ddigwyddodd cyn y gwrthdrawiad.
Cafodd adeilad ei wagio ac roedd cordon yr heddlu yn ei le er mwyn diogelu'r cyhoedd.
Llun: Google