Harlech: Achub person oedd wedi llwyddo i arnofio drwy ddal gafael mewn bocs oeri

Cricieth

Fe gafodd unigolyn ei achub gan Wylwyr y Glannau a Sefydliad Brenhinol y Badau Achub yn Harlech ar ôl mwy na phedair awr yn y môr ar ôl iddyn nhw lwyddo i arnofio drwy ddal gafael ar focs oeri (cool box).

Dywedodd Sefydliad Brenhinol y Badau Achub (RNLI) Cricieth fod dau o’u badau achub wedi cael eu lansio am 15.00 ddydd Iau ar ôl cael gwybod nad oedd cwch RIB wedi dychwelyd i Borthmadog.

Daeth aelod oddi ar ddyletswydd o griw RNLI Cricieth, a oedd yn gweithio i Adran Forwrol Cyngor Gwynedd, o hyd i gwch a oedd wedi troi drosodd ar fanc tywod ger Porthmadog.

Roedd dau fad achub RNLI Cricieth, bad achub pob-tywydd y Bermo, timau Achub Gwylwyr y Glannau Cricieth ac Abermaw, a hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau yn rhan o’r ymdrech i ddod o hyd i’r person coll.

Ar ôl cyfnod hir o chwilio, cafodd y person ei ganfod ar Draeth Harlech.

“Credir ei fod wedi bod yn y dŵr am fwy na phedair awr ar ôl i’r llanw trai ei gludo allan o’r aber, gan lwyddo i arnofio drwy ddal gafael mewn bocs oeri,” meddai llefarydd ar ran RNLI Cricieth.

“Roedd y person yn dioddef effeithiau difrifol bod mewn dŵr oer ac fe gafodd ei gludo ar fwrdd hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau cyn cael ei drosglwyddo’n syth i’r ysbyty am driniaeth bellach.”

Dywedodd Chris Fisher, Rheolwr Gweithrediadau Bad Achub RNLI Cricieth, ei fod yn “ddigwyddiad heriol oedd yn newid yn barhaus” ac yn un oedd yn “gofyn am ymateb amlasiantaethol sylweddol”.

Roedd y cydweithio rhwng y criwiau gwirfoddol, Timau Achub Gwylwyr y Glannau, Hofrennydd Chwilio ac Achub y Gwylwyr y Glannau a phawb arall oedd yn rhan o’r digwyddiad “yn rhagorol o’r dechrau i’r diwedd,” meddai.

“Mae’r canlyniad hefyd yn neges bwerus am ba mor anfaddeugar y gall y môr fod,” meddai.

Fe wnaeth annog pawb sy’n mynd ar y dŵr i wisgo siaced achub addas, defnyddio cortyn diffodd yr injan lle mae un wedi’i osod, cario ffordd ddibynadwy o gyfathrebu, a rhoi gwybod i rywun ar y lan am eu cynlluniau cyn cychwyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.