Hantafeirws: Dau o Brydain oedd ar fwrdd yr MV Hondius adref yn hunan-ynysu
Mae dau berson a ddaeth yn ôl i Brydain ar ôl bod ar fwrdd y llong sydd wedi ei tharo gan achosion o'r hantafeirws bellach yn hunan-ynysu.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nad yw'r ddau sydd yn hunan-ynysu yn y DU ag oedd ar yr MV Hondius wedi dangos unrhyw symptomau o'r haint.
Mae nifer o bobl oedd mewn cyswllt agos gyda'r rhai fu ar y llong yn cael "cynnig cefnogaeth ac maent hefyd yn hunan-ynysu" meddai'r asiantaeth.
Dywedodd llefarydd eu bod hefyd yn helpu i olrhain pobl a allai fod wedi bod ar yr un awyren ag achos arall o hantafeirws sydd wedi'i gadarnhau.
Mae disgwyl i bobl ddychwelyd i Brydain ar ôl bod ar fordaith yr MV Hondius, sydd yn hedfan baner yr Iseldiroedd.
Dywedodd swyddogion iechyd y gellir dychwelyd y dinasyddion Prydeinig sydd ar ôl os nad ydynt yn datblygu symptomau, unwaith y bydd y llong yn docio yn Tenerife.
"Nid oes unrhyw un o ddinasyddion Prydain sydd ar ei bwrdd yn dangos symptomau ar hyn o bryd ond maent yn cael eu monitro'n agos," meddai Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU mewn datganiad.
Pwysleisiodd llefarydd fod y risg i'r cyhoedd "yn parhau i fod yn isel iawn" ar y cyfan.
Ysbyty
Roedd un aelod Prydeinig o griw y llong, Martin Anstee, 56 oed, ymhlith y rhai a gafodd eu symud o'r llong.
Cafodd ei hedfan i dderbyn gofal meddygol arbenigol yn yr Iseldiroedd ar ôl cael ei gludo oddi ar y llong mewn hofrennydd.
Wrth siarad o'r ysbyty, dywedodd Mr Anstee wrth Sky News: “Rwy'n gwneud yn iawn. Dydw i ddim yn teimlo'n rhy ddrwg. Mae llawer o brofion i'w gwneud o hyd.
“Does gen i ddim syniad pa mor hir y byddaf yn yr ysbyty. Rwyf wedi fy ynysu ar hyn o bryd.”
Dywedodd ei wraig Nicola wrth The Telegraph eu bod wedi profi “ychydig o ddyddiau trawmatig iawn”.
Ychwanegodd: “Mae'n falch o fod oddi ar y llong. Cafodd y cyflwr yn eithaf ysgafn yna aeth ychydig yn fwy difrifol ac mae bellach yn sefydlog eto.
“Yr ofn gyda'r firws hwn yw y gall ddirywio'n gyflym iawn... dydw i ddim yn credu ei fod mewn perygl uniongyrchol nawr ond roedd yn ofnadwy.”
Llun: PA