Haf 2026 y poethaf ar gofnod yng Nghymru
Haf 2026 oedd y poethaf a’r ail mwyaf heulog yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, yn ôl ffigurau dros dro gan y Swyddfa Dywydd.
Roedd y tymheredd cyfartalog drwy gydol yr haf yn 16.9°C, 2.2°C yn uwch na’r cyfartaledd rhwng 1991 a 2020.
Roedd hynny 0.8°C yn uwch na’r record flaenorol o 16.1°C, a gafodd ei gosod yr haf diwethaf.
Roedd 699.4 awr o heulwen yng Nghymru, 36% uwchlaw’r cyfartaledd.
Gosododd Sain Tathan ym Mro Morgannwg record heulwen misol newydd yng Nghymru, gan gofnodi 360.6 awr ym mis Gorffennaf.
Dim ond 179.5mm o law a gafodd Cymru, sy’n cyfateb i 59% o’r glawiad arferol ar gyfer yr haf. Ond nid hwn oedd yr haf sychaf ar gofnod, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Roedd mis Awst yn anarferol o gynnes a sych yng Nghymru. Roedd y tymheredd cyfartalog yn 16.8°C, 1.7°C yn uwch na’r cyfartaledd.
Dim ond 65% o’r glawiad cyfartalog a gafodd Cymru yn ystod y mis hwnnw.
Gweddill y DU
Ar draws y DU, haf 2026 oedd yr haf cynhesaf ers dechrau cadw cofnodion.
Roedd y tymheredd cyfartalog ar draws mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst yn 16.5°C. Roedd hynny’n uwch na’r record flaenorol o 16.1°C, a gafodd ei gosod y llynedd yn unig.
Mae hynny’n golygu bod y chwe haf cynhesaf ar gofnod i gyd wedi digwydd yn ystod y ganrif hon. Mae tri ohonyn nhw wedi digwydd yn y degawd hwn.
Mae 2026 yn y safle cyntaf, wedyn 2025, 2018, 2006, 2003 a 2022.
Dywedodd pennaeth priodoli hinsawdd y Swyddfa Dywydd, Dr Mark McCarthy bod "haf 2026 wedi bod yn rhyfeddol".
"Mae’n enghraifft o’r tywydd eithafol y gallwn ddisgwyl ei weld yn amlach o ganlyniad i newid hinsawdd sydd wedi’i achosi gan bobl," meddai.
“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod newid hinsawdd wedi gwneud haf fel yr un rydyn ni newydd ei brofi tua 130 gwaith yn fwy tebygol.
“Mewn hinsawdd heb ei heffeithio gan allyriadau nwyon tŷ gwydr gan bobl, byddai haf fel hwn yn eithriadol o annhebygol. Byddai’n digwydd lai nag unwaith bob 1,000 o flynyddoedd.
“Yn yr hinsawdd sydd gennym ni heddiw, sy’n newid oherwydd effaith llosgi tanwyddau ffosil, dylen ni ddisgwyl i hyn ddigwydd tua unwaith bob naw mlynedd.”
Wrth ymateb i’r ffigurau dros dro, dywedodd Gweinidog Pontio Hinsawdd y DU, Katie White, fod “ein haf poethaf erioed yn ein hatgoffa nad ydyn ni’n aros i newid hinsawdd gyrraedd Prydain”.
“Rydyn ni’n byw yn ei ganol,” meddai.
“Mae plant wedi bod yn rhy boeth i gysgu, teuluoedd wedi bod yn poeni am berthnasau hŷn a ffermwyr wedi gweld eu caeau’n sychu.
“Mae diffoddwyr tân a’r Lluoedd Arfog wedi bod yn brwydro yn erbyn tanau gwyllt. Rydyn ni i gyd wedi deffro i realiti nad oes neb eisiau ei weld yn effeithio ar y bobl a’r llefydd rydyn ni’n eu caru."