Gyrrwr trên wedi marw ar ôl i ddau drên daro ei gilydd ger Bedford yn Lloegr
Mae gyrrwr trên wedi marw ar ôl i ddau drên daro ei gilydd yn ardal Bedford yn Lloegr nos Wener meddai'r heddlu.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod 33 o bobl wedi dioddef anafiadau difrifol a bod 56 arall gyda mân anafiadau.
Mewn datganiad nos Wener, dywedodd Heddlu Sir Bedford: "Mae'r gwasanaethau brys ar hyn o bryd yn lleoliad digwyddiad ar y rheilffordd ychydig i'r de o Bedford.
"Mae pob llinell drwy'r ardal wedi eu hatal.
"Gwiriwch eich taith cyn i chi deithio a chaniatewch ddigon o amser ychwanegol.
"Rydym yn gofyn i bobl osgoi'r ardal a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan allwn."
Disgrifiodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer y ddamwain fel un “pryderus iawn” a dywedodd ei fod yn “ddiolchgar i’r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym i’r digwyddiad trasig hwn”.
Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham ddydd Sadwrn fod y Brenin Charles “wedi’i dristáu’n fawr” gan y ddamwain rheilffordd nos Wener ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ar ddatblygiadau ac “mae ei feddyliau a’i gydymdeimlad gyda theulu’r ymadawedig a phawb a anafwyd neu a effeithiwyd gan ddigwyddiad mor drasig”.
Dywedodd un o'r teithwyr ar y trên Dr Pete Knapp fod pobl yn “crio, sgrechian” a dywedodd fod rhai yn ymddangos eu bod wedi cael anafiadau difrifol.
Dywedodd Dr Knapp, 40, wrth y Press Association: “Roedd yna foment o gael fy nhaflu i’r gadair o’m blaen, ac yna gwelais fwg. Roedd pobl yn crio, yn sgrechian, roedd pobl mor ofnus ac yn ddryslyd.
“Codais i fyny a gweld llawer o bobl nad oeddent yn gallu siarad, wedi torri eu coesau, ac yna llwyddais i ddod allan o’r trên ac oherwydd fy mod yn eithaf tenau roeddwn i’n gallu gwasgu allan trwy’r bwlch yn y drysau.”
Dywedodd Dr Knapp ei fod wedi gweld pobl ag “anafiadau difrifol, anafiadau bach, anafiadau bygythiol i fywyd” yn ogystal â “phobl â rhwymynnau, pobl na allent weld yn syth”, tra bod eraill fel ef yn dal i allu cerdded.
Roedd criwiau Tân ac Achub Sir Bedford yn y lleoliad ychydig i'r de o Bedford a gofynnodd y gwasanaeth i bobl osgoi'r ardal.
Dywedodd East Midlands Railway mai’r trenau oedd y gwasanaeth 16:40 o Corby i Lundain St Pancras a’r gwasanaeth 15:50 o Nottingham i Lundain St Pancras.
Roedd Ysbyty Prifysgol Luton a Dunstable wedi gofyn i’r cyhoedd beidio â mynd i’r adran achosion brys oni bai eu bod yn wynebu argyfwng gwirioneddol.
Daw hynny wrth i staff meddygol helpu teithwyr a gafodd eu hanafu yn y gwrthdrawiad.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain ychydig cyn 18.45 nos Wener: “Rydym yn ymateb i adroddiadau am wrthdrawiad yn cynnwys dau drên yn ardal Bedford.
Dywedodd yr aelod seneddol lleol, Mohammad Yasin, ei fod yn cydymdeimlo gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio.