'Gyda'n gilydd, neu ddim o gwbl': Cynhadledd yn ceisio newid agweddau am amrywiaeth yng Nghymru

ITV Cymru
Cafodd y Gynhadledd Meistroli Amrywiaeth ei chynnal yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd
bernie

‘Gyda’n gilydd neu ddim o gwbl’ - dyna oedd neges cynhadledd flynyddol ‘Meistroli Amrywiaeth’ gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd eleni.

"Dyw amrywiaeth a chynhwysiant ddim i rai, mae o i bawb," dywedodd sylfaenydd y digwyddiad, Bernie Davies, sydd wedi bod yn cynnal y gynhadledd ers pedair blynedd.

Mae’r digwyddiad yn dod â sawl sector yng Nghymru gyda’i gilydd i addysgu, cyd-weithio â chymunedau ac i rannu profiadau er mwyn "sicrhau bod amrywiaeth, cydraddoldeb ac ecwiti yn rhan sylfaenol" o sectorau Cymru.

Image
Hodan Hersi
Hodan Hersi

I’r rheini wnaeth fynychu’r gynhadledd, mae’r sesiynau a’r sgyrsiau yn gwneud iddyn nhw deimlo bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Dywedodd Hodan Hersi, cyd-sylfaenydd Womens Advocacy Network Wales, elusen sy’n rhoi cymorth i fenywod o gefndiroedd amrywiol gyda’u hiechyd a gofal:

“Mae’n wych dysgu am yr hyn mae pobl yn ei wneud a’r gwahanol swyddi a rhannau mae pobl yn eu chwarae. 

"I fi, dwi’n edrych mwy ar ecwiti, i weld sut mae pobl yn cael eu trin yn deg ac yn cael cyfleoedd, mae amrywiaeth yn meddwl y dylai pawb bod yn rhan o’r sgwrs.”

Image
zone

Roedd sawl sesiwn gwahanol yn rhan o’r digwyddiad, o edrych ar ecwiti mewn mamolaeth, i sesiynau STEM i addysgu ar sut i ddefnyddio technoleg i wella mynediad at addysg, i sgyrsiau gydag athletwyr y Gemau’r Gymanwlad am amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn chwaraeon.

Roedd cwmnïau o amryw o sectorau yng Nghymru hefyd yn gweld budd y gynhadledd yn flynyddol.

Mae Gwen Morgan-Evans yn bartner yng nghwmni cyfreithiol Hugh James, ac wedi bod yn mynychu’r digwyddiad ers tair blynedd.

“Beth sy’n arbennig am heddiw yw bod yna lot o fusnesau gwahanol yma…oherwydd, does gan un busnes ddim yr ateb ynglŷn ag amrywiaeth, cynhwysiant ac ecwiti, ond beth sy’n neis ydy dod i wrando ar pobl eraill, dod i ddysgu, rhannu syniadau a ballu," meddai.

Image
gwen.jpg
Gwen Morgan-Evans

“Dwi’n dod adra, yn ôl i’r firm a medru mynd, ‘Ia, dyn ni wedi cael syniadau da heddiw’, rhywbeth o adran hollol wahanol ond mae’r peth yna’n gweithio i’n busnes ni.”

Roedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Sioned Williams, yn rhan o’r seremoni agoriadol, ac yn canmol amcan y digwyddiad, tra’n cydnabod bod “ffordd i fynd” o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn y Senedd. 

‘Mae rhaid i’r Senedd edrych fel y Gymru mae hi’n ei chynrychioli. Mae ‘na beth llwyddiant wedi bod, ond mae yna sicr bell o ffordd i fynd.

"Mae sicrhau cynhwysiant a chwarae teg i bawb yn rhan ganolog o weledigaeth Llywodraeth Cymru," meddai’r Aelod o'r Senedd, sydd hefyd yn Weinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.

Pan ofynnwyd i’r wrthblaid, Reform UK, a yw’r Senedd fel y mae hi yn cynrychioli’r gymdeithas Gymreig, dywedodd llefarydd ar ran y blaid:

“Mae Plaid Cymru yn honni eu bod yn rhoi Cymru yn gyntaf, ond mae’n ymddangos bod mwy o ddiddordeb ganddyn nhw mewn dilyn ffasiynau eithafol y Chwith. Mae angen iddyn nhw ganolbwyntio ar eu gwaith bob dydd."

“Ein blaenoriaeth ni yw mynd i'r afael â chyflwr ofnadwy gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, nid bodloni ideoleg 'woke' sydd ddim ond yn gwastraffu amser, egni ac arian.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.