Gwynedd: Trigolion yn 'anfodlon' gyda faniau gwersylla mewn maes parcio
Mae Cyngor Gwynedd yn annog gyrwyr i barcio mewn ffordd “gyfrifol a pharchus” ar ôl i drigolion Bangor dynnu sylw at broblemau yn ymwneud â faniau gwersylla yn y ddinas.
Mae trigolion yn "anfodlon" bod cerbydau hamdden yn aml yn meddiannu maes parcio Ffordd y Traeth ers i rwystr uchder gael ei dynnu i lawr.
Mae’n ardal lle cafodd cynllun lliniaru llifogydd a gwaith dŵr eu cynnal yn ddiweddar.
Cafodd y rhwystr ei dynnu pan oedd y maes parcio yn cael ei ddefnyddio fel safle gwaith yn ystod y gwaith amddiffyn arfordirol.
Cafodd y fynedfa ei hehangu a’r cynllun ei newid hefyd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y caiff y rhwystr uchder ei ailosod unwaith y bydd gwaith arall yn yr ardal wedi’i gwblhau’n derfynol.
Mae nifer o bobl wedi mynegi barn ar y cyfryngau cymdeithasol trwy grŵp cymunedol cyhoeddus Bangor.
Dywedodd un y dylid "codi tâl ar garafanau modur", tra nododd un arall "nad ydyn nhw'n symudol o gwbl".
Roedd rhai yn cefnogi'r faniau, gan ddweud "o leiaf mae'n edrych yn brysur; beth sy'n bod ar faniau gwersylla?"
Dywedodd un arall fod "pobl drist, eiddigeddus yn cwyno am faniau gwersylla".
Parcio'n gyfrifol
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:"Rydym yn annog pob gyrrwr i barcio'n gyfrifol, i barchu eraill ac i gydymffurfio â rheolau parcio, er budd pawb.
"Yn achos y maes parcio dwyreiniol ym Mangor, cafodd y fynedfa ei hehangu a'r cynllun ei newid pan ddefnyddiwyd y maes parcio i hwyluso'r gwaith sylweddol a wnaed yn ddiweddar yn Hirael i wella'r amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn ogystal â gwaith gan Dŵr Cymru.
"Ers hynny, mae biniau sbwriel newydd, camerâu CCTV ac arwyddion rhybuddio wedi'u gosod yn y maes parcio.
“Mae cam nesaf y gwaith i’w gwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf, pan fydd rhwystr cyfyngu uchder newydd yn cael ei osod i wella’r modd y caiff yr ardal ei rheoli.
“Bydd marciau ffordd yn cael eu cyflwyno fel rhan o waith Teithio Llesol sydd ar ddod; bydd hyn yn cynnwys mesurau i wella diogelwch cerddwyr a beicwyr wrth iddynt fynd drwy’r maes parcio.”
Ychwanegodd mai ei “prif neges” i bobl sy’n ymweld â Gwynedd oedd “trefnu ymweliadau a gweithgareddau ymlaen llaw er eu diogelwch eu hunain ac er diogelwch eraill, i barcio’n gyfrifol, ac i wirio ble mae’r meysydd parcio priodol a beth yw’r trefniadau”.
