Gwynedd: Gwleidyddion yn mynnu cyfarfod gyda'r bwrdd iechyd dros ddyfodol gwasanaeth brys Ysbyty Alltwen
Mae gwleidyddion yng Ngwynedd yn dweud bod ymgynghoriad dros ddyfodol gwasanaeth gofal brys yn Ysbyty Alltwen yn Nhremadog wedi creu “pryder sylweddol” ymhlith trigolion yr ardal.
Mewn llythyr at Brif Weithredwr y bwrdd iechyd, Carol Shillabeer, mae’r Aelod Seneddol, Liz Saville-Roberts, a’r Aelod o’r Senedd, Beca Brown, sydd ill dwy yn cynrychioli Plaid Cymru, wedi gwneud cais am gyfarfod ar frys gyda’r bwrdd.
Daw wrth i’r bwrdd ystyried cau Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys (UPCC) mewn tri ysbyty yng ngogledd Cymru, gan gynnwys y gwasanaeth yn Ysbyty Alltwen ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae Newyddion S4C eisoes wedi adrodd ar bryderon gan y cynghorydd Jeff Evans a Janet Finch-Saunders AS, ynglŷn â chau’r uned yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi.
Mewn llythyr a rannwyd ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, fe wnaeth Ms Saville-Roberts a Ms Brown fynegi “pryder difrifol” bod cau’r uned yn Ysbyty Alltwen yn opsiwn sydd dan ystyriaeth.
“Mae’r cynnig wedi achosi pryder sylweddol ymhlith trigolion sy’n dibynnu ar y ganolfan i gael mynediad at ofal iechyd brys mewn da bryd, yn enwedig pobl hŷn, teuluoedd â phlant ifanc, a’r rhai sy’n wynebu anawsterau wrth deithio ymhellach i gael triniaeth,” meddai’r llythyr.
"Ar adeg pan mae cael mynediad at wasanaethau iechyd yn parhau i fod yn her i nifer o gymunedau, mae’r posibilrwydd o golli’r gwasanaeth lleol gwerthfawr hwn yn codi pryderon difrifol ynghylch argaeledd gofal yn agos at gartrefi cleifion."
Dywedwyd fod etholwyr wedi cysylltu i holi am "yr effaith bosibl ar allu cleifion i gael triniaeth mewn da bryd, amseroedd teithio, y pwysau ar wasanaethau cyfagos, a darpariaeth gofal iechyd ar draws yr ardal ehangach".
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2115017562174173567?a=o2vOCTRlQ1wZ3iYZHxo&s=20
Mae'r llythyr yn ychwanegu: "Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau, rydych yn ystyried gofal brys yn flaenoriaeth. A allwch egluro sut mae hynny’n wir os ydych yn cynnig torri’r gwasanaethau hyn?
"Os oes cynigion i gryfhau a gwella gofal brys, byddem yn gwerthfawrogi esboniad o sut rydych yn bwriadu gwneud hynny.
"Rydym yn gofyn am gyfarfod brys gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i drafod y cynigion hyn, deall y dystiolaeth y maent yn seilio eu penderfyniadau arni, a chyfleu’r pryderon y mae ein hetholwyr wedi’u codi gyda ni."
Ymgynghoriad
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer: "Mae mynediad at ofal brys ac argyfwng yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd.
"Rydym felly'n adolygu'r ddarpariaeth bresennol o Ganolfannau Gofal Sylfaenol Brys ac yn ymgysylltu â'n staff.
"Bydd canlyniad yr adolygiad a'r dull posibl o ddarparu'r gwasanaeth yn y dyfodol yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd lleol yw penderfyniadau ynghylch trefniadaeth gwasanaethau lleol y GIG, gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i asesu anghenion y boblogaeth maen nhw'n ei gwasanaethu.
"Fel gydag unrhyw newid posibl i wasanaethau, byddem yn disgwyl i sefydliadau GIG Cymru ymgysylltu’n agored ac yn dryloyw â rhanddeiliaid, yn unol â chanllawiau cenedlaethol.”
