Gwynedd: Caniatáu cais dadleuol am 20 o dai fforddiadwy yn Chwilog
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi caniatáu cynllun i godi 20 o dai fforddiadwy ym mhentref Chwilog, er gwaethaf deiseb yn gwrthwynebu’r datblygiad dadleuol.
Fe gafodd y cais i ddatblygu safle ger Cae Capel yn Chwilog ei gymeradwyo ddydd Llun.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 20 o dai fforddiadwy, yn ogystal â mynedfa newydd i gerbydau o’r B4354, mannau parcio a man agored cyhoeddus.
Roedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer 25 o dai, ond cafodd nifer yr unedau ei ostwng i 20 yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ym mis Ebrill i wrthod y cais.
Mae’r cynllun diwygiedig bellach wedi’i leoli’n gyfan gwbl o fewn safle sydd wedi’i ddynodi’n benodol ar gyfer tai yng Nghynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn.
Ond roedd gwrthwynebiad lleol i’r datblygiad, gyda deiseb yn cynnwys tua 160 o enwau yn ei erbyn.
Fe wnaeth Cyngor Cymuned Llanystumdwy hefyd benderfynu’n unfrydol i wrthwynebu’r cais ym mis Gorffennaf.
Gorddatblygu
Ymhlith y pryderon oedd y byddai’r cynllun yn arwain at orddatblygu ac yn effeithio ar gymeriad y pentref, yn ogystal â phryderon am yr effaith bosib ar y Gymraeg.
Roedd y Cyngor Cymuned hefyd wedi codi cwestiynau ynghylch capasiti’r ysgol leol, diogelwch ar y briffordd, carthffosiaeth a’r diffyg cyfleusterau chwarae yn y pentref.
Wrth drafod y cais yn y cyfarfod ddydd Llun, dywedodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Rhys Tudur bod maint y datblygiad yn “sylweddol i bentref o maint Chwilog.”
“Mi fyddai codi 22 chwaneg yn ormod o newid i'r pentref allu ymdopi ag o, ac yn newid i gydbwysedd ieithyddol y gymuned.
“Mae maint y datblygiad bwriedig felly yn anghymesur i faint y pentref, ac yn newid rhy farw yn rhy gyflym.
“Mae Chwilog yn un o'r pum pentref sydd o'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn Nwyfor - dros 80%. Mae 70% o aelwydydd â dau riant sy’n siarad Cymraeg yn Chwilog, ag efo un rhiant, mae’n 94%.
“Felly, mae hynny'n golygu ein bod ni'n gadarnle ieithyddol go iawn, a byddai niwed ieithyddol yn cael ei achosi i'r pentref os a petai meddiannwyr y tai yn dod o ardal llawer ehangach a thu draw i'r ardal lle mae'r cais yn cael ei wneud.”
'Amddifadu siaradwyr Cymraeg'
Dywedodd y cynghorydd Berwyn Jones nad oedd modd gwrthod y cais gan ei fod wedi’i wrthod yn flaenorol ar sail ei fod ar dir eithriedig, ond bod yr amod bellach wedi’i dynnu.
“Mae gweddill y safle ar dir dynodedig, hynny yw mae yn y cynllun datblygu lleol, ac felly mae’n anodd iawn heb unrhyw brawf bod hwn yn mynd i fod yn erbyn ein polisiau.
“Mae rhywun yn poeni am yr iaith Gymraeg wrth gwrs, ond un o’r pethau dwi wedi sylwi efo bob stad tai cymdeithasol, bod canran y siaradwyr Cymraeg ynddyn nhw i’w weld yn uwch na canran y pentref neu’r lleoliad lle maen nhw.
“Dwi’n meddwl bod na beryg yn fa’ma bod ni’n amddifadu Cymry Cymraeg o dai cymdeithasol bron, os da ni ddim yn adeiladu yn y mannau yma, da ni’n mynd i fod mewn peryg o golli Cymry Cymraeg yn mynd allan o Gymru am rywle i fyw.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Elwyn Edwards fod yna bosibilrwydd y gallai'r cyngor golli arian petai’r cais yn cael ei wrthod, cyn cael ei ganiatau ar apêl yn ddiweddarach.
“Fedra’i ddim cefnogi hwn, i wrthod, er bod gen i gydymdeimlad,” meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes: “Os ydyn ni’n gwrthod ar sail ieithyddol, nad yw hynny’n gwneud ni’n agored i gyhuddiadau o wahaniaethu? Be ddigwyddodd i bolisi Cenedl Noddfa Plaid Cymru, neu nid yw hynny’n berthnasol i Saeson?
“Os nad ydyn ni’n adeiladu digon o unedau tai cymdeithasol, fe fydd siaradwyr Cymraeg iaith naturiol iaith cyntaf...fydd rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd oherwydd nad ydyn nhw’n gallu fforddio tai yn yr ardal, na chwaith yn canfod gwaith os nad ydych chi’n gallu fforddio byw yn y gymuned.”
Cafodd cynnig gan y cynghorydd Anne Lloyd Jones i ganiatau’r cynllun ei gefnogi gan y pwyllgor, gyda 10 o blaid a phump yn ei wrthod.