Gŵyl Gyhoeddi Prifwyl 2027 i'w chynnal yn Llanidloes
Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y bydd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2027 yn cael ei chynnal yn Llanidloes, Powys, a hynny ar brynhawn Sadwrn 9 Mai.
Ysgol Uwchradd Llanidloes fydd y man ymgynnull cyn i grwpiau, sefydliadau ac ysgolion lleol ymuno â Gorsedd Cymru, drwy orymdeithio drwy’r dref cyn y seremoni i groesawu'r Brifwyl i'r fro.
Daeth cyhoeddiad yn gynharach eleni y bydd y maes ger pentref Glantwymyn, rhyw chwe milltir o Fachynlleth yng ngogledd-orllewin Powys, gyda dalgylch Eisteddfod 2027 yn cynnwys Powys gyfan a de Meirionnydd.
Trefniant tebyg sydd ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni sy'n ymestyn dros dair ardal, sef Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr.
Enw i'r ŵyl
Bellach mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi cyhoeddi cystadleuaeth i ddod o hyd i enw ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y trefnwyr, maen nhw eisiau sicrhau enw sy’n "adlewyrchu cymeriad unigryw’r ardal ac un sy’n creu balchder ymysg cymunedau lleol."
Yn arwain yr ymgyrch ar ran y Pwyllgor Gwaith mae Heulwen Davies, is-gadeirydd Pwyllgor Strategol Eisteddfod 2027.
Wrth annog pobl i gymryd rhan, dywedodd: "Ryden ni’n edrych ymlaen yn fawr ac yn falch iawn o allu croesawu’r Eisteddfod yma y flwyddyn nesaf. Mae 'na gryn gyffro a chefnogaeth yn yr ardal yn barod, ac mae 'na grwpiau o wirfoddolwyr lleol eisoes wrthi'n datblygu syniadau a digwyddiadau.
"Un o'r pethe pwysig rwan yw dod o hyd i enw sy'n gweddu dalgylch yr Eisteddfod, ond sydd hefyd yn cyfleu'r hyn sy'n gwneud ein hardal ni a'n Eisteddfod ni’n unigryw. Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle i ddod yn rhan o hanes Eisteddfod 2027 ac mae croeso i bawb o bob man i gynnig enwau."
Y dyddiad cau yw 31 Mawrth. Bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ar 9 Ebrill, gyda'r enillydd yn derbyn tocyn wythnos i Faes Eisteddfod 2027 yn wobr.