Gwres ar waelod llynnoedd yn bygwth ecosystemau, yn ôl ymchwilydd o Brifysgol Bangor

Dr Iestyn Woolway
Dr Iestyn Woolway

Mae astudiaeth newydd dan arweiniad ymchwilydd o Brifysgol Bangor wedi canfod bod tonnau gwres yn datblygu ar waelod llynnoedd ledled y byd, gan fygwth ecosystemau dŵr croyw.

Dr Iestyn Woolway o Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor oedd yn gyfrifol am arwain yr ymchwil. Fe wnaeth yr ymchwil mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o’r Pacific Northwest National Laboratory a Phrifysgol Helsinki.

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad fod y mwd a'r gwaddod ar waelod llynnoedd yn profi cyfnodau estynedig o wres eithafol wrth i’r blaned gynhesu.

Mae'r gwaddod ar waelod llynnoedd yn gartref i amrywiaeth o organebau ac yn helpu i gynnal ansawdd dŵr. Pan fyddant yn gorboethi, gall hynny gael effaith ar ecosystem gyfan y llyn.

Dyma’r ymchwil cyntaf i archwilio tonnau gwres ar draws llynnoedd ledled y byd. Cafodd modelau cyfrifiadurol eu defnyddio  i efelychu tymereddau gwaddod mewn mwy na 41,000 o lynnoedd - o ranbarthau trofannol i'r Arctig.

Yn ôl yr astudiaeth, mae tonnau gwres mewn gwaddodion llynnoedd dwfn yn para’n hirach na’r rhai ar wyneb y dŵr. 

Maen nhw'n para tua 12 diwrnod yn hirach ar gyfartaledd ac yn gallu cyrraedd bron i dair wythnos ar ôl i don wres effeithio ar wyneb y llyn.

Mae hyn yn golygu bod gwres yn cael ei ddal ar waelod y llyn hyd yn oed pan fo tymheredd yr arwyneb wedi dychwelyd i lefelau arferol.

Image
Llyn Padarn Llanberis
Llyn Padarn, Llanberis

Rhagolygon pryderus

Yn ôl yr ymchwil, gallai’r sefyllfa waethygu’n sylweddol erbyn diwedd y ganrif os bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau ar lefelau uchel.

Mae’r modelau’n dangos y gallai tonnau gwres mewn gwaddodion dwfn bara bron i 100 diwrnod yn fwy fesul digwyddiad, gyda bron i 150 yn fwy o ddiwrnodau tonnau gwres bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae digwyddiadau sy’n cael eu dosbarthu’n rhai difrifol neu eithafol yn cyfrif am lai nag 1% o’r holl donnau gwres gwaddod. Ond erbyn diwedd y ganrif, gallent gyfrif am fwy na chwarter yr holl ddigwyddiadau.

Mewn llynnoedd trofannol, mae’r ymchwilwyr yn awgrymu y gallai tonnau gwres gwaddod ddod yn gyflwr bron yn barhaol drwy gydol y flwyddyn.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.