Gwobr i Wynford Ellis Owen am ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus
Mae'r ymgynghorydd cwnsela a sylfaenydd y ganolfan adferiad Stafell Fyw, Wynford Ellis Owen, wedi ennill gwobr sy’n cydnabod cyfraniad eithriadol pobl dros 70 oed i fywyd cyhoeddus.
Fe gafodd Gwobr Bywyd Gweithredol Sternberg y Times ei sefydlu yn 2008 gan Syr Sigmund Sternberg mewn partneriaeth gyda’r Times, er mwyn cydnabod cyfraniad pobl sy'n gwirfoddoli, ymgyrchu ac yn gwneud gwaith elusennol ar ôl ymddeol.
Ers bod mewn adferiad o ddibyniaeth yn 1992, mae Mr Ellis Owen, 78 oed o Greigiau ar gyrion Caerdydd, wedi helpu eraill i ailadeiladu eu bywydau.
Yn dilyn gyrfa 40 mlynedd fel actor ac ysgrifennwr ar gyfer y theatr a theledu, fe aeth ymlaen i hyfforddi fel ymgynghorydd cwnsela arbenigol.
Erbyn 2011, roedd wedi sefydlu canolfan adferiad 0'r enw Stafell Fyw yn y brifddinas, sy'n cynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl sy’n dioddef o ddibyniaeth - boed hynny ar alcohol, cyffuriau, gamblo, hunan-niwed neu ymddygiadau niweidiol eraill.
Mae ei waith wedi helpu i herio stigma o gwmpas dibyniaeth, ac yn dangos pwysigrwydd cymuned a chefnogaeth wrth wella yn y tymor hir.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Mr Ellis Owen ei bod yn "anrhydedd anferthol" i dderbyn y wobr.
"Mae o'n anrhydedd fawr nid yn unig i mi, ond i bawb sydd wedi bod yn ynghlwm â'r gwaith ac i bawb sydd wedi bod mor ddewr mewn gwirionedd a gwneud rhywbeth am eu problemau," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'n cymryd guts i ddechrau delio gyda phroblemau yn hytrach na rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw, felly mae'r wobr yma iddyn nhw mewn gwirionedd.
"A dwi'n meddwl bod o'n dangos y dyle ni barhau i wasanaethu, ond yn fwy na dim o bosib mai cyfrinach hapusrwydd ydi datblygu i fod yn rhoddwr.
"Falle bod hynny'n annog pobl eraill i ddod allan o'u hymddeoliad a defnyddio'r amser sydd ganddyn nhw i helpu pobl eraill."
'Dibyniaeth yn ffynnu mewn cyfrinachedd'
Dywedodd Mr Ellis Owen fod problemau ymlyniad (attachment) wrth wraidd nifer o ddibyniaethau.
"Ymlyniadau 'da ni'n delio efo, os oes 'na ymlyniad i unrhyw beth ti'n rhoi dy hunaniaeth i'r peth yna a ti'n rhoi dy bŵer i gyd i ffwrdd iddo fo, wedyn mae ganddo'r pŵer i benderfynu sut ti'n teimlo a sut ti'n meddwl," meddai.
"Mae dibyniaeth yn ymwneud ag hunaniaeth ffals, ac mae adferiad ynglyn â dy wir hunaniaeth - ffeindio pwy wyt ti mewn gwirionedd.
"Achos be' sy'n gyffredin efo pawb sy'n dod i ngweld i ydy does ganddyn nhw ddim syniad pwy 'na be' ydyn nhw. Dyna ydi'r Stafell Fyw, taith o hunan adnabyddiaeth, dod i nabod chdi dy hun.
"Ac o ddod i nabod chdi dy hun, ti'n canfod y nerth ar gael i ddelio efo'r petha 'ma."
Wrth i fwy o bobl nag erioed yng Nghymru geisio cymorth adferiad, mae Mr Ellis Owen yn dweud ei fod yn falch bod mwy o bobl yn barod i siarad am eu problemau o gymharu ag 20 mlynedd yn ôl.
"Roedd y stigma sydd o gwmpas alcoholiaeth a dibyniaeth yn gyffredinol yn lot gwaeth bryd hynny," meddai.
"Gydag eithrio un person arall nath farw o alcoholiaeth, fi oedd y cynta mewn gwirionedd i sôn yn gyhoeddus am fy mhroblemau.
"Ers hynny, diolch i'r drefn, mae pobl yn teimlo bod ganddyn nhw fwy o ryddid, ac yn llai ofnus i siarad yn agored am eu problemau nhw - ac mae hynny bob amser yn beth da, achos mae dibyniaeth yn ffynnu mewn cyfrinachedd."
Yn y dyfodol, mae'n dweud ei bod yn bwysig sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth yn eu mamiaith.
"Mae 'na fwy a fwy o dystiolaeth sy'n dangos bod pobl yn adfer yn well pan maen nhw'n gwneud hynny trwy mamiaith," meddai.
"Mae o yn gwneud gwahaniaeth achos pan ti'n siarad mewn iaith arall, mae 'na rywfaint o bellter emosiynol oddi wrth be' ti'n ddeud a be ti'n deimlo, ond pan ti'n siarad yn dy famiaith, mae'r teimladau yn agos iawn."
Yn ôl Mr Ellis Owen, mae "gweld bywydau yn newid" yn ei annog i barhau gyda'r gwaith.
"Mae oes y gwyrthiau yn dal yn fyw ac yn iach, 'da ni'n gweld gwyrthiau yn digwydd yn wythnosol - bywyd yn cael ei drawsnewid, teuluoedd yn cael eu hadfer, priodasau yn cael eu hachub," meddai.
"Unwaith mae pobl yn cael y guts i wynebu eu hanawsterau a gwneud 'wbath amdanyn nhw, mae'n wyrthiol deud y gwir."
Bydd yn derbyn y wobr yn Llundain ddydd Iau gan Michael Sternberg, cadeirydd Sefydliad Elusennol Syr Sigmund Sternberg.
