Syr Keir Starmer yn wynebu galwadau i ymddiswyddo fel Prif Weinidog

Syr Keir Starmer yn wynebu galwadau i ymddiswyddo fel Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog y DU yn wynebu galwadau i ymddiswyddo ar ôl iddo gyfaddef ei fod yn “anghywir” i benodi Peter Mandelson fel llysgennad y wlad i’r Unol Daleithiau.

Yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun, fe wnaeth Mr Starmer ymddiheuro am benodi Mr Mandelson i swydd ddiplomyddol uchaf y Deyrnas Unedig

Fe ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd swyddogion yn y Swyddfa Dramor wedi rhoi gwybod iddo fod Mr Mandelson wedi methu’r broses fetio, oedd yn rhan allweddol o’r broses penodi.

Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo gan Keir Starmer fis Medi'r llynedd ar ôl i’w berthynas gyda’r pedoffeil Jeffrey Epstein ddod i’r amlwg.

Mae’r heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, yn dilyn honiadau fod Mr Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra roedd e'n weinidog yn San Steffan.

Dywedodd Syr Keir: “Wrth wraidd hyn, fe wnes i benderfyniad oedd yn anghywir. Ni ddylwn fod wedi penodi Peter Mandelson.

“Rwy’n cymryd cyfrifoldeb am y penderfyniad hwnnw, ac rwy’n ymddiheuro eto i ddioddefwyr y pedoffeil Jeffrey Epstein, a fethodd yn amlwg â’m penderfyniad.”

'Gwarthus'

Wrth roi amlinelliad manwl o’r broses i benodi Mr Mandelson ddydd Mawrth, dywedodd Syr Keir ei fod wedi darganfod ddydd Mawrth diwethaf bod Mr Mandelson wedi ei benodi, “yn erbyn argymhelliad penodol United Kingdom Securtity Vetting (UKSV)”, sef adran y Swyddfa Cabinet sydd yn gyfrifol am y broses wirio.

Fe ddywedodd ei fod yn "syfrdanol" a “gwarthus” bod gweision sifil ddim wedi rhannu’r wybodaeth gydag ef. Cafodd Syr Olly Robbins, uwch was sifil yn y Swyddfa Dramor ei ddiswyddo, ar ôl i'r stori ddod i'r amlwg.

“Nid oedd unrhyw un yn Rhif 10 wedi cael gwybod am argymhelliad UKSV,” meddai.

“Ni wnaeth swyddogion y Swyddfa Dramor a wnaeth y penderfyniad hwnnw drosglwyddo’r wybodaeth i mi, i’r Ysgrifennydd Tramor...nag unrhyw weinidog arall.

“Dyma wybodaeth y dylwn fod wedi’i chael amser maith yn ôl, ac mae’n wybodaeth y dylai’r Tŷ fod wedi’i chael amser maith yn ôl. Mae’n wybodaeth yr oedd gennyf fi a’r Tŷ’r hawl i’w gwybod.”

'Enw da yn y fantol'

Cafodd Mr Starmer ei gyhuddo o dorri’r cod gweinidogol gan arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, am beidio â datgelu’r wybodaeth yn sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog ddydd Mercher, ar ôl darganfod penderfyniad UKSV.

Image
Kemi Badenoch
Kemi Badenoch

Dywedodd Mrs Badenoch: “Mae ei enw da yn y fantol. Mae pawb yn gwylio. Mae hi o’r diwedd yn amser am y gwirionedd.

“Byddaf yn ei atgoffa, o dan y cod gweinidogol, fod ganddo ddyletswydd i gywiro’r cofnod cyn gynted â phosibl.

“Dywed y Prif Weinidog mai dim ond ddydd Mawrth y gwnaeth ddarganfod fod Peter Mandelson wedi methu’r archwiliad diogelwch. Y cyfle cynharaf i gywiro’r cofnod oedd Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher, bron i wythnos yn ôl. Mae hyn yn torri’r cod gweinidogol.”

Fe ychwanegodd Ms Badenoch bod eglurhad Mr Starmer o’r broses yn “fwy tywyll a mwy gwrthgyferbyniol”.

Fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, annog Mr Starmer i “gymryd cyfrifoldeb” am y penderfyniad.

Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Roedd y Prif Weinidog yn gwybod bod penodi Mandelson yn risg enfawr, ond penderfynodd ei fod yn risg werth ei chymryd – camgymeriad trychinebus.

“Ar ôl blynyddoedd o anhrefn dan y Ceidwadwyr, roedd angen llywodraeth arnom a oedd yn canolbwyntio ar fuddiannau’r bobl....roedd angen llywodraeth o onestrwydd ac atebolrwydd arnom. Felly a fydd y Prif Weinidog o’r diwedd yn derbyn mai’r unig ffordd y gall helpu i gyflawni hynny yw ymddiswyddo?”

Wrth ymateb, dywedodd Syr Keir Starmer bod “y broses fel y dylai fod” pan gafodd yr e-byst rhwng Mandelson ac Epstein eu datgelu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.