Gweinidog Gwydnwch Gwledig: ‘Ffermio yn ôl y calendr ddim yn gweithio’

Gweinidog Gwydnwch Gwledig: ‘Ffermio yn ôl y calendr ddim yn gweithio’

Dyw’r rheoliadau dadleuol sy’n gwahardd ffermwyr rhag gwasgaru slyri dros fisoedd y gaeaf “ddim yn gweithio” a bydd rhaid symud oddi wrthyn nhw, yn ôl gweinidog amaeth ac amgylchedd newydd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, nad yw “ffermio yn ôl y calendr” yn gweithio, ac y gallai technoleg helpu i reoli’r gwaith o wasgaru slyri yn fwy cyfrifol.

Daeth Rheoliadau Adnoddau Dŵr Llywodraeth Cymru i rym ym mis Ebrill 2021, gyda’r cyfnodau gwaharddedig ar wasgaru slyri yn dod i rym yn 2024.

Nod y rheoliadau, yn ôl y Llywodraeth Lafur ar y pryd, oedd gwarchod ansawdd dŵr mewn afonydd.

Roedd y camau wedi ennill cefnogaeth pysgotwyr a grwpiau bywyd gwyllt, ond wedi gwylltio rhai ffermwyr.

Cafodd adolygiad Bolton ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn 2024 i edrych ar Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, gan gynnwys y cyfnodau gwaharddedig ar wasgaru slyri.

“Dyw ffermio yn ôl y calendr ddim yn gweithio. Mae adolygiad Bolton o’r Rheoliadau Llygredd Amaethyddol wedi gwneud hynny’n glir,” meddai Mr Gruffydd.

“Y bwriad yw symud oddi wrth hynny. Pa mor fuan allwn ni wneud hynny yw’r cwestiwn.

“Mi fydda i’n cychwyn drwy eistedd lawr gyda’r grŵp sy’n edrych ar droi argymhellion adolygiad Bolton fewn i weithredu ar lawr gwlad.

“Mae ’na le i bwyso ar dechnoleg ac yn y blaen, felly, mae hwnna’n sicr yn rhywbeth sydd ar y rhestr.”

Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Bu’r gweinidog hefyd yn trafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sydd wedi bod yn destun dadlau ymhlith ffermwyr ac undebau amaeth.

Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod newidiadau wedi’u gwneud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ers y cynigion gwreiddiol, ond maen nhw’n parhau i alw am ragor o welliannau.

Dywedodd Mr Gruffydd nad oedd am “rhwygo fe i gyd lan a dechrau eto”, ond y byddai’r cynllun yn newid wrth i’r llywodraeth wrando ar adborth.

“I ni wedi gweud mai esblygu a newid wrth fynd yn ein blaenau,” meddai.

“I ni wedi trafod rhai o’r materion penodol yma gyda’r undebau yn barod.

“Maen nhw wedi bod yn cefnogi ac yn cynorthwyo eu haelodau i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y cynllun, wedi pigo lan, falle, adborth o fan’na ynglŷn â rhai o’r rhesymau mae rhai wedi dewis peidio dod mewn i’r cynllun.

“Mi gymerwn ni hynny bant a mi edrychwn ni arnyn nhw.”

Dywedodd y byddai’r cynllun yn parhau i esblygu ac y byddai newidiadau’n cael eu gwneud, ond y byddai angen amser i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn ffordd gyfrifol.

TB a moch daear

Cafodd Mr Gruffydd ei holi hefyd ynghylch a fyddai difa moch daear yn digwydd dan lywodraeth Plaid Cymru.

Dywedodd fod Bwrdd Rhaglen TB Cymru wedi nodi bod angen mynd i’r afael â’r clefyd ar sawl mater.

“Mae’r Bwrdd Rhaglen TB yng Nghymru wedi gwneud hi' glir yn eu datganiad nhw, o'u safleoliad nhw ym mis Mawrth, bod yn rhaid ymladd TB ar dri ffrynt,” meddai.

“Ymhlith pobl, ond hefyd ymhlith da byw ac ymhlith bywyd gwyllt.

“A dwi’n cytuno gyda’r safleoliad yna.”

Daw’r sylwadau wrth i Mr Gruffydd ddechrau ar ei waith yn y portffolio gwledig ac amgylcheddol yn Llywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.