Gwasanaethau brys yn ymateb i dân sylweddol ym Mhort Talbot
Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i dân sylweddol ym Mhort Talbot ddydd Mercher.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru fod sawl criw yn ymateb i ddigwyddiad ar Ffordd Doc yn yr ardal.
Cafodd criwiau o orsafoedd Port Talbot, Castell-nedd, Rhydaman, Y Tymbl, Caerfyrddin, Pontarddulais a Glyn-Nedd eu hanfon i'r ardal ychydig wedi 15:30 ddydd Mercher.
Mae'r tân mewn ardal lle mae dros 200 tunnell o wastraff masnachol.
Mae trigolion yn cael eu hannog i gadw eu ffenestri a drysau ar gau lle'n bosib oherwydd presenoldeb mwg trwchus yn yr ardal.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn annog pobl i osgoi'r ardal a theithio ar ffyrdd eraill pan yn bosib.
Mae'r digwyddiad yn parhau nos Fercher.