Gwaith celf merch 13 oed o Gaerdydd i ymddangos cyn pob dangosiad o ffilm newydd The Hunger Games

Freja

Mae merch 13 oed o Gaerdydd wedi cael cwrdd â rhai o sêr mwyaf Hollywood ar ôl ennill cystadleuaeth gelf genedlaethol.

Bydd gwaith Freja, sy’n ddisgybl Blwyddyn 9,  yn cael ei ddangos mewn sinemâu ledled y Deyrnas Unedig cyn pob dangosiad o’r ffilm newydd The Hunger Games: Sunrise on the Reaping.

Fe wnaeth hi guro dros 1,000 o gystadleuwyr yng nghystadleuaeth Create the Card, a gafodd ei threfnu gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) mewn partneriaeth â’r cwmni ffilmiau Lionsgate.

Bydd ei dyluniad yn ymddangos ar gerdyn dosbarthu swyddogol y BBFC cyn pob dangosiad o’r ffilm, sy’n cael ei rhyddhau mewn sinemâu ddydd Gwener 20 Tachwedd. Mae’r cerdyn yn nodi dosbarthiad oedran y ffilm.

‘Do’n i ddim yn disgwyl cael fy newis’

Mae Freja wrth ei bodd gyda chyfres The Hunger Games, a chelf yw ei hoff bwnc yn yr ysgol.

Fe ddechreuodd beintio â phaent olew dair blynedd yn ôl, a dyna’r math o baent a ddefnyddiodd i greu ei dyluniad buddugol.

Cafodd ei hysbrydoli gan olygfa o ragolwg o'r ffilm, sy’n dangos y cystadleuwyr yn neidio oddi ar eu platfformau ar ddechrau’r gemau.

Dywedodd Freja ei bod wedi cael sioc o glywed ei bod wedi ennill.

“Do’n i methu credu’r peth. Ro’n i’n gwybod bod llawer o bobl eraill wedi anfon eu gwaith celf, felly do’n i ddim yn disgwyl cael fy newis, ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod i wedi cael fy newis,” meddai.

“Cefais fy ysbrydoli gan y rhan benodol yma o’r trelar oherwydd ei bod yn dangos arena’r Hunger Games fel lle prydferth, yn hytrach na’r peiriant lladd y mae hi mewn gwirionedd.”

Image
Dyluniad Freja
Dyluniad Freja

Daeth 1,031 o geisiadau i’r gystadleuaeth gan bobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.

Cafodd 10 ymgeisydd eu dewis ar gyfer y rhestr fer, cyn i waith Freja gael ei ddewis fel yr enillydd.

Fe wnaeth y beirniaid ganmol ei defnydd o liwiau a’i gallu i gyfleu symudiad y cymeriadau a’r tensiwn ar ddechrau’r gemau.

Cafodd Freja wybod ei bod wedi ennill drwy neges fideo arbennig gan dri o sêr y ffilm, Joseph Zada, Mckenna Grace a Whitney Peak.

Fel rhan o’i gwobr, fe deithiodd hi a’i theulu i Lundain, lle cafodd daith arbennig o amgylch swyddfeydd y BBFC i ddysgu sut mae ffilmiau’n cael eu dosbarthu.

Cafodd wahoddiad hefyd i ddigwyddiad arbennig i gefnogwyr y ffilm, lle cafodd gerdded ar y carped coch a chyfarfod â rhai o sêr Hollywood.

Roedd y rhain yn cynnwys Zada, Peak, Ralph Fiennes, Elle Fanning a Jesse Plemons.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.