Gwahardd dau heddwas am ddweud celwydd am ymchwiliad damwain angheuol

Chwith i dde: Shane Loughlin, Eve Smith, Sophie Russon, Rafel Jeanne a Darcy Ross
Shane Loughlin, Eve Smith, Sophie Russon, Rafel Jeanne a Darcy Ross

Mae dau swyddog o Heddlu Gwent wedi cael eu diswyddo a'u gwahardd rhag gweithio i'r heddlu eto, ar ôl eu canfod yn euog o gamymddwyn difrifol.

Daw'r penderfyniad yn dilyn ymchwiliad i'r modd y wnaeth Heddlu Gwent ddelio ag adroddiadau am bobl ifanc oedd ar goll cyn i dri ohonyn nhw gael eu canfod yn farw mewn car ger Llaneirwg yng Nghaerdydd yn 2023.

Bydd enwau'r Cwnstabl Richard Hardwick a'r Cwnstabl Lauren Livingstone yn cael eu hychwanegu at restr wahardd Coleg Plismona'r DU, fydd yn eu hatal rhag gweithio ym maes plismona eto.

Cafodd y ddau swyddog eu canfod yn euog mewn gwrandawiad disgyblu a ddaeth i ben ddydd Gwener.

Daeth y panel i'r casgliad bod y ddau wedi bod yn anonest ynghylch chwilio cartrefi dwy o'r menywod oedd wedi cael eu cofnodi fel pobl ar goll.

Bu farw Eve Smith, Darcy Ross a Rafel Jeanne mewn gwrthdrawiad car a ddigwyddodd tua 02:00 ar 4 Mawrth 2023. Cafodd dau berson arall eu hanafu'n ddifrifol.

Daethpwyd o hyd iddynt bron i ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ychydig ar ôl hanner nos ar 6 Mawrth, mewn ardal goediog oddi ar yr A48.

Roedd Heddlu Gwent wedi derbyn yr adroddiad cyntaf am un o'r bobl ifanc oedd ar goll tua 19:30 ar 4 Mawrth.

Beth glywodd y gwrandawiad?

Yn dilyn gwrandawiad disgyblu a barodd bum diwrnod, daeth y panel i'r casgliad bod y Cwnstabl Richard Hardwick wedi methu â chwilio cartrefi dwy o'r menywod yr oedd eu teuluoedd wedi dweud oedd ar goll.

Clywodd y panel ei fod wedi dweud celwydd wrth ei swyddog goruchwylio ac ymchwilwyr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), gan honni ei fod wedi cynnal y chwiliadau.

Roedd hefyd wedi nodi gwybodaeth anghywir yng nghofnodion yr heddlu.

Daeth y panel i'r casgliad ei fod wedi torri safonau proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb, dyletswyddau a chyfrifoldebau, a gorchmynion a chyfarwyddiadau.

Roedd y Cwnstabl Lauren Livingstone wedi ymweld â'r ddau gartref gyda'r Cwnstabl Hardwick, ond ni chynhaliodd unrhyw chwiliadau y tu mewn i'r eiddo.

Daeth y panel i'r casgliad ei bod hi wedi ychwanegu manylion amwys at gofnodion yr heddlu yn fwriadol, gan greu'r argraff bod chwiliadau wedi'u cynnal, er ei bod yn gwybod nad oedd hynny'n wir.

Dywedodd y panel ei bod hi hefyd wedi bod yn anonest wrth ddweud wrth ei swyddog goruchwylio fod y chwiliadau wedi'u cwblhau.

'Gweithredoedd anfaddeuol'

Dywedodd Derrick Campbell, Cyfarwyddwr Ymgysylltu yr IOPC fod gweithredoedd y ddau swyddog yn "anfaddeuol".

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau gyda theuluoedd a ffrindiau'r bobl ifanc a gollodd eu bywydau, y rhai a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phawb yr effeithiwyd arnyn nhw gan y digwyddiad hwn.

"Roedd gweithredoedd y Cwnstabl Hardwick a'r Cwnstabl Livingstone yn anfaddeuol, gyda'r ddau wedi methu â chyflawni un o egwyddorion mwyaf sylfaenol plismona, sef gweithredu'n onest ac ag uniondeb."

Dywedodd fod chwilio eiddo yn rhan sylfaenol ond hanfodol o gamau cyntaf ymchwiliad i berson sydd ar goll a bod y Cwnstabl Hardwick wedi dweud celwydd "yn fwriadol."

Ychwanegodd fod y Cwnstabl Livingstone wedi cael digon o gyfleoedd i ddweud wrth yr ymchwilwyr nad oedd y chwiliadau gofynnol wedi'u cynnal.

Mae gwrandawiad camymddwyn difrifol ar y gweill ar gyfer dau swyddog arall o Heddlu Gwent mewn perthynas â'r digwyddiad.

'Deall yr effaith ddofn'

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd John Davies o Heddlu Gwent bod eu "meddyliau gyda phawb y gwnaeth y digwyddiadau trasig hyn effeithio arnynt."

"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i deuluoedd a ffrindiau Darcy, Eve a Rafel ac yn cydnabod yr effaith barhaus ar y rhai a ddioddefodd anafiadau y noson honno," meddai.

"Rydym yn deall yr effaith ddofn y mae'r achos hwn wedi'i chael ar eu teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned ehangach.

"Mae'n bwysig y cafwyd ymchwiliad annibynnol a thrylwyr i’r materion hyn mewn modd agored a thryloyw, ac yna archwiliad pellach yn y gwrandawiadau hyn gan aelodau'r panel annibynnol.

"Er bod y panel annibynnol wedi dod i benderfyniad am ddau swyddog, rydym yn cydnabod bod gwrandawiad pellach i'w gynnal i ystyried gweithredoedd dau swyddog arall sy'n gysylltiedig â’r modd y gwnaethon nhw ymdrin â’r adroddiadau bod pobl ar goll."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.