'Cytundeb arwyddocaol' gyda'r UE o fudd i bob person yn y DU - Burnham

Burnham Ewrop PA

Mae'r Prif Weinidog, Andy Burnham, yn dweud y bydd cytundeb "arwyddocaol" newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd o fudd i bob person yn y DU yn dilyn trafodaethau mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel ddydd Gwener. 

Dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen y byddai'r cytundeb yn nodi "trobwynt" yn y berthynas.

Mae'r cytundeb yn cynnwys cytundebau yn ymwneud ag allforion bwyd ac amaethyddiaeth, a chynllun ieuenctid a allai arwain at 100,000 o bobl ifanc o Ewrop yn dod i weithio dros dro yn y DU, gyda phobl ifanc o'r DU yn gallu gwneud yr un peth ar y cyfandir.

Ychwanegodd y Prif Weinidog y byddai'r DU yn cymryd rhan yng nghynllun yr UE i fynd i'r afael â chychod bach yn croesi'r Sianel, gan nodi "cam sylweddol iawn ymlaen".

Yn ôl Ms von der Leyen, roedd yr uwch-gynhadledd ym Mrwsel ddydd Gwener yn arwydd o "hen ffrindiau yn dod yn ôl i adfywio cyfeillgarwch". 

Ond mae tensiynau yn parhau, gyda therfyn amser o chwe mis wedi ei roi ar gyrraedd cytundeb am dorri ffioedd i fyfyrwyr o'r UE mewn prifysgolion yn y DU.

Cysylltiadau agosach

Wrth siarad cyn yr uwch-gynhadledd, dywedodd Mr Burnham fod arolygon barn diweddar yn dangos bod 73% o bobl Prydain o blaid cysylltiadau agosach ag Ewrop: “Nid mater o ailadrodd 2016 yw hyn. Nid mater o ail-ymuno sydd yma.

“Ond ar y cyfan, mae tri chwarter pobl Prydain yn cefnogi cysylltiadau agosach.

“A byddai’r fargen sy’n cael ei chyflwyno yfory yn creu cysylltiadau agosach a fyddai’n dod â’r holl fanteision y soniais amdanynt o ran costau byw, yn ogystal â chydweithio i fynd i’r afael â mewnfudo anghyfreithlon.

“Felly wrth gwrs, fel Prif Weinidog Prydain, rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i fynd o fan hyn i Frwsel a gwneud fy ngorau i sicrhau’r fargen honno.” meddai.

Beirniadaeth Reform

Beirniadodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, y posibilrwydd y byddai'n rhaid i'r DU dderbyn rheoliadau newydd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y gwleidydd ar GB News: “Ni fydd gan Senedd Prydain unrhyw ddweud yn y mater. Bydd unrhyw anghydfod yn cael ei farnu gan y Llys Ewropeaidd.

“Os nad yw hyn yn torri maniffesto Llafur yn llwyr - ac yn frad llwyr o’r hyn yr addawodd Andy Burnham i bobl [ei etholaeth] Makerfield ddim ond ychydig fisoedd yn ôl - yna dydw i ddim yn gwybod beth ydyw.”

Mae disgwyl i Mr Farage gynnal ei gynhadledd i’r wasg ei hun, yn dilyn un y Prif Weinidog ddydd Gwener, i rybuddio yn erbyn cysylltiadau agosach â Brwsel.

Prif Lun (PA): Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Antonio Costa yn croesawu Andy Burnham ddydd Gwener

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.