Gorlenwi mewn Adrannau Achosion Brys 'yn cynyddu'r risg o farwolaeth'

Ysbyty

Mae gorlenwi mewn Adrannau Achosion Brys a gofal coridor yn gysylltiedig â channoedd o farwolaethau yn wythnosol yn y DU yn ôl astudiaeth newydd. 

Fe wnaeth adolygiad o fwy na 19,000 o gleifion 18 oed neu'n hŷn ddarganfod fod y tebygolrwydd o farw yn ystod y 28 diwrnod canlynol wedi cynyddu 1% am bob cynnydd o 10% yn nifer y cleifion yn yr adran achosion brys.

Cafodd yr astudiaeth ei chynnal mewn 134 o Adrannau Achosion Brys yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr y llynedd a'i chyflwyno yng Nghyngres Ewropeaidd Meddygaeth Argyfwng yn Ffrainc.

Fe wnaeth Dr Ryan Henry o Brifysgol Glasgow gyflwyno'r astudiaeth, a gafodd ei chynnal dros gyfnod o bythefnos ym mis Mawrth y llynedd.

Mae'r astudiaeth yn adlewyrchu tua 70% o adrannau brys yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. 

Dywedodd fod tua 550 o farwolaethau pob wythnos ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gallu cael eu hachosi gan orlenwi mewn adrannau achosion brys. 

Fe wnaeth y canlyniadau awgrymu ar gyfartaledd fod adrannau achosion brys yn gweithredu ar lefel o 175% o gapasiti, sy’n arwydd o orlwytho.

'Effaith drychinebus'

Dywedodd Dr Ian Higginson, Llywydd Y Coleg Brenhinol Meddygaeth Argyfwng (RCEM): “Mae pobl yn marw mewn cysylltiad â gorlenwi mewn Adrannau Achosion Brys. Dylai hyn fod yn destun braw i'r rhai sy'n llunio polisi, ac eto nid ydym yn gweld unrhyw frys i weithredu.

"Mae’r RCEM yn parhau i alw ar lywodraethau pedair gwlad y DU i weithredu er mwyn mynd i’r afael ag effaith drychinebus gorlenwi ac arosiadau hir yn ein Hadrannau Achosion Brys ar ein cleifion, cleifion sy’n dioddef niwed ac a fydd yn parhau i wneud hynny oherwydd methiant i weithredu.”

Fe wnaeth Dr Henry a'i gydweithwyr hefyd edrych ar yr effaith o "ofal coridor" lle mae cleifion yn derbyn triniaeth mewn ardaloedd clinigol nad ydynt yn safonol, gan gynnwys coridorau.

Roedd y rhain hefyd yn gysylltiedig â chynnydd yn y risg o farwolaethau ar gyfradd debyg i orlenwi yn ôl yr astudiaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae’r canfyddiadau hyn yn peri pryder mawr ac yn tanlinellu pam na ddylid byth derbyn gorlenwi a defnyddio coridorau neu fannau anaddas eraill ar gyfer gofal cleifion fel rhywbeth arferol. Dylai pob claf gael gofal diogel, amserol ac urddasol mewn amgylchedd clinigol priodol.

“Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wedi nodi’n glir bod gwella gofal brys ac acíwt yn flaenoriaeth, a bydd yn lansio fframwaith polisi newydd yr hydref hwn i wella canlyniadau, llif cleifion yn yr ysbyty, rhyddhau cleifion o’r ysbyty, ac integreiddio â gofal yn y gymuned."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.