Gobaith y bydd prawf newydd yn canfod canser y fron yn gyflymach
Fe allai pecyn syml i wneud profion yn y cartref drawsnewid y broses o ganfod canser y fron yn gynnar yn y dyfodol, diolch i waith ymchwil gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae gwyddonwyr yno yn datblygu prototeip o ddyfais llif unffordd - tebyg i brawf beichiogrwydd neu brawf Covid-19 - sy'n gallu canfod arwyddion biocemegol cynnar o ganser y fron o un sampl o wrin.
Os bydd yn llwyddiannus, ffe allai'r prawf gynorthwyo i roi diagnosis cyflymach, lleihau’r ddibyniaeth ar driniaethau mewnwthiol ('invasive'), a gwella canlyniadau i filoedd o fenywod meddai'r brifysgol.
Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod yn fyd-eang ac mae'n dal i fod yn brif achos marwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser mewn mwy na 100 o wledydd.
Er bod mamograffeg, sganiau MRI a biopsïau yn chwarae rhan hanfodol mewn diagnosis, mae galw cynyddol am offer symlach, mwy hygyrch sy'n gallu canfod y clefyd yn ei gyfnod cynharaf pan fod modd ei drin orau.
Newidiadau metabolig
Mae rhaglen ymchwil glinigol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn nodi newidiadau metabolig sy'n gysylltiedig â chanser y fron ac sy'n cael eu gwaredu trwy’r wrin, gan alluogi canfod y clefyd yn gynharach.
Dywedodd yr Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth, sy'n arwain y gwaith ymchwil: "Mae ein gwaith yn datgelu 'nod adnabod' biocemegol penodol sy'n gysylltiedig â'r cyfnod cynharaf o ganser y fron - un y gellir ei ganfod mewn sampl wrin syml.
"Trwy droi’r canfyddiadau hyn yn brawf llif unffordd, rydym yn gobeithio creu offeryn diagnostig sy'n fforddiadwy, yn hawdd i'w ddefnyddio gartref, ac sy'n gallu canfod canser yn gynt na llawer o ddulliau sydd ar gael ar hyn o bryd.
"Mae diagnosis cynnar yn achub bywydau, a'n nod yw gwneud y cam cyntaf hanfodol hwnnw'n opsiwn i gymaint o fenywod â phosibl."
Dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, sy’n gweithio o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae potensial gan y cynllun hwn i fyrhau'n sylweddol yr amser a gymerir i ymchwil hanfodol ym maes iechyd menywod gyrraedd ymarfer clinigol yn y byd go iawn.
"Mae tystiolaeth yn dangos y gall gymryd tua 17 mlynedd ar hyn o bryd i ymchwil newydd ddod yn rhan o’r drefn arferol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid academaidd a'n byrddau iechyd i gau'r bwlch hwnnw a sicrhau bod cleifion yn cael budd o’r gwaith arloesi—megis y gwaith sy'n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth— yn llawer cyflymach."
