Glasgow: Gorsaf drên yn debygol o fod ynghau am ddeuddydd wedi tân mawr

Llun: PA/Robert Perry
Tan Glasgow

Mae hi’n debygol y bydd orsaf drên Glasgow Canolog yn parhau ynghau am o leiaf ddeuddydd ar ôl tân enfawr a ymledodd i adeiladau cyfagos ddydd Sul.

Cafodd yr adeilad o’r 19eg ei wacáu wrth i'r tân achosi difrod sylweddol. 

Mae pob gwasanaeth wedi'i ganslo yng ngorsaf drenau brysuraf Yr Alban. 

Yn ôl Network Rail, mae'n debygol iawn y bydd yr orsaf yn parhau ynghau weddill Ddydd Llun a dydd Mawrth hefyd. 

Cafodd pobl eu symud o westai cyfagos a ffyrdd eu cau, yn fuan wedi i'r tân gynnau. 

Dim ond wyneb yr adeilad ar gornel Stryd Gorden a Stryd Union sydd yn dal i sefyll. 

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Mae Gorsaf Drenau Glasgow Canolog yn parhau ar gau yn dilyn y tân ar Stryd Union ddydd Sul. 

"Bellach mae’r tân o dan reolaeth, ac mae’r gwasanaethau brys yn dal yn y lleoliad ac rydym yn dal i'w cefnogi. 

"Bydd yr orsaf yn parhau ar gau heddiw ac yn debygol yfory. Caiff yr amserlenni ar gyfer yr ail agoriad eu cadarnhau unwaith yr ydym yn medru cael mynediad a chynnal y gwiriadau angenrheidiol."

Llun: PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.