Gisèle Pelicot wedi’i ‘bychanu’ ar ôl i luniau noeth ohoni gael eu defnyddio i hyrwyddo llyfr
Mae Gisèle Pelicot wedi dweud ei bod wedi cael ei “bychanu unwaith eto” ar ôl i luniau noeth ohoni gael eu hanfon at sefydliadau’r cyfryngau er mwyn hyrwyddo llyfr am ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.
Dywedodd Ms Pelicot, sy’n 73 oed, wrth y darlledwr Ffrengig BFM TV y byddai’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyhoeddwr ac awdur y llyfr.
Fe ddaeth Gisèle Pelicot yn adnabyddus ledled y byd yn 2024 ar ôl iddi ildio’i hawl i aros yn ddienw yn ystod achos llys ei chyn-ŵr, Dominique Pelicot.
Cafodd Dominique ei garcharu am 20 mlynedd am roi cyffuriau i’w gyn-wraig a’i threisio, yn ogystal â chaniatáu i ddynion eraill ei threisio tra oedd hi’n anymwybodol.
Cafodd 50 o ddynion eraill hefyd eu dedfrydu i gyfanswm o dros 400 mlynedd o garchar ar ôl cael eu dyfarnu’n euog o o leiaf un cyhuddiad yr un.
Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau yn Ffrainc, anfonodd y cyhoeddwr Tinbad luniau noeth o Ms Pelicot at rai sefydliadau cyfryngau er mwyn hyrwyddo’r llyfr. Dywedodd y cyfryngau fod y lluniau wedi’u tynnu gan ei chyn-ŵr.
“Rwyf wedi fy syfrdanu’n fawr bod delweddau o’r rhan fwyaf personol o fy mywyd preifat yn cael eu harddangos a’u defnyddio at ddibenion masnachol,” meddai Ms Pelicot.
“Heddiw, rwy’n cael fy bychanu a’m brifo unwaith eto, fel pe na bai’r profiad dirdynnol o fynd drwy’r achos llys wedi bod yn ddigon.”
Mae’r cyhoeddwr wedi ymddiheuro ac wedi cadarnhau na fydd rhagor o gopïau o’r llyfr yn cael eu hargraffu, y tu hwnt i’r 280 copi sydd eisoes mewn cylchrediad.
Dywedodd awdur y llyfr, Sabine Prokhoris, mai’r cyhoeddwr oedd yn llwyr gyfrifol am yr ymgyrch hyrwyddo “amhriodol”.