Gemau'r Gymanwlad: Efeilliaid yn ennill medalau efydd mewn gymnasteg
Mae’r efeilliaid Emily ac Abigail Roper wedi ennill medalau efydd mewn gymnasteg wrth gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ddydd Llun.
Gyda’r efeilliaid 20 oed yn cystadlu yng nghystadleuaeth y llofnaid (vault), fe lwyddodd Abigail Roper i sicrhau’r trydydd safle gyda sgôr o 13.433 wedi dwy naid, y tu ôl i’r enillydd Lia-Monica Fontaine o Ganada ac Abigail Martin o Loegr.
Fe orffennodd Abigail un safle yn uwch na’i chwaer Emily, a orffennodd yn bedwerydd gyda sgôr o 13.283, gan fethu allan ar fedal.
Ond wrth gystadlu yng nghystadleuaeth y bariau anghymesur (uneven bars) yn ddiweddarach brynhawn Llun, llwyddodd Emily i sicrhau medal ar yr ail gyfle.
Gyda sgôr o 13.666, fe orffennodd yn y trydydd safle, y tu ôl i’r enillydd Kate McDonald o Awstralia, ac Elizabeth Black o Ganada.
Daeth Jemima Taylor o Gymru yn seithfed yn y gystadleuaeth.
Dywedodd Emily ar ôl ennill ei medal bod gweld llwyddiant ei chwaer yn gynharach yn y dydd “wedi fy ngwthio i i wneud yn well”.
“Ro’n i’n siomedig ar ôl y llofnaid. Ro’n i eisiau gwneud e dros fy hunan, a chael y fedal yma, felly rwy’n falch iawn bod hyn wedi digwydd.”
Prif lun: Emily Roper (chwith) ac Abigail Roper (dde) (Llun: Tîm Cymru)
