Galwadau am eglurder gan BBC Cymru dros ddod â rhaglen Ar y Marc i ben
Mae un o aelodau seneddol Plaid Cymru a Chadeirydd Clwb Pêl Droed Caernarfon wedi beirniadu penderfyniad BBC Cymru i ddod â'r rhaglen radio bêl-droed boblogaidd Ar y Marc i ben.
Fe gyhoedodd y gorfforaeth fis Medi y bydd nifer o raglenni’n dod i ben, gan gynnwys Dros Ginio, Dros Frecwast ar ddydd Sadwrn ac Ar y Marc, fel rhan o gynlluniau i arbed £9 miliwn yng Nghymru.
Cyhoeddodd BBC Cymru y byddai 58 o swyddi yn cael eu colli yng Nghymru, a gostyngiad o 20 awr mewn rhaglenni teledu, ynghyd â newidiadau i amserlen Radio Cymru.
Mae’r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts bellach yn galw ar BBC Cymru i roi mwy o eglurder am y newidiadau arfaethedig i ddarlledu yn y Gymraeg.
'Siomedig'
Wrth drafod y penderfyniad i ddod ag Ar y Marc i ben, dywedodd Paul Evans, Cadeirydd CPD Caernarfon, bod y rhaglen, sy’n cael ei chyflwyno gan Dylan Jones, yn cynnig “gwasanaeth pwysig iawn” i gefnogwyr pêl-droed ar lawr gwlad.
“Mae'n siomedig clywed bod y BBC wedi penderfynu canslo Ar y Marc,” meddai Mr Evans.
“Mae Ar y Marc wastad wedi sefyll allan fel rhaglen sy'n cefnogi'r system yng Nghymru, yn ogystal â'n timau cenedlaethol.
“Mae'r ffaith ei bod yn cael ei chynhyrchu yn ein hiaith ein hunain hefyd yn nodedig, ac ni allaf feddwl am unrhyw raglen arall sy'n darparu'r gwasanaeth pwysig hwn."
Ychwanegodd: "Rydym mewn cyfnod tyngedfennol i'r gêm yn y wlad hon, wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru geisio datblygu Cynghreiriau Cymru Premier a gwneud cynnydd yn rhyngwladol i ehangu eu hapêl.
“Fel clwb sy'n defnyddio'r Gymraeg, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Ar y Marc i'n cymuned.
“Byddwn yn disgwyl i'r BBC ddeall pwysigrwydd y rhaglen hon - mwy nag unrhyw un arall - i gefnogwyr pêl-droed Cymru.”
'Sylw i'r gêm'
Cododd Liz Saville-Roberts y mater yn gynharach yr wythnos hon yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd ei bod yn ceisio sicrwydd na fydd y newidiadau arfaethedig yn lleihau’r sylw a roddir i bêl-droed ar lefel llawr gwlad yn y Gymraeg.
“Byddwn i'n croesawu mwy o eglurder gan BBC Cymru ynghylch sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ddarlledu yn y Gymraeg ac, yn benodol, y sylw i bêl-droed Cymru," meddai.
“Mae'n taflu goleuni nid yn unig ar Uwch Gynghrair Cymru, ond ar glybiau, gwirfoddolwyr a chymunedau ar draws pob lefel o'r gêm yng Nghymru.
"Mae llawer o gemau Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru bellach wedi'u hamserlennu'n fwriadol ar nosweithiau Gwener i wneud y mwyaf o sylw i'r gêm ddomestig.
"Felly mae'n rhesymol gofyn ble bydd y gemau, y clybiau a'r cymunedau hynny'n cael eu trafod yn fyw ar radio cenedlaethol yn y Gymraeg os nad yw Ar y Marc bellach yn rhan o'r amserlen."
'Adlewyrchu amrywiaeth bywyd'
Mae’r Aelod dros Ddwyfor Meirionydd hefyd wedi mynegi pryder am effaith y toriadau ar swyddfeydd y gorfforaeth ar draws y wlad.
“Ochr yn ochr â phryderon ynghylch Ar y Marc, mae cwestiynau ehangach ynghylch effaith y newidiadau arfaethedig hyn ar ddarlledu yn y Gymraeg.
“Gyda llai o rolau wedi'u lleoli ym Mangor a llai o bresenoldeb gan y BBC yng ngogledd-orllewin Cymru, bydd gwrandawyr eisiau sicrwydd y bydd rhaglenni'n parhau i adlewyrchu amrywiaeth bywyd Cymru a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i BBC Cymru am ymateb.
Prif lun: Paul Evans a Liz Saville-Roberts AS.