Galw am wella diogelwch ffordd yn dilyn marwolaeth dyn ifanc yng Ngwynedd
Galw am wella diogelwch ffordd yn dilyn marwolaeth dyn ifanc yng Ngwynedd
Mae cynghorydd o Wynedd yn galw ar y cyngor lleol i wella diogelwch ar ffordd yn dilyn gwrthdrawiad angheuol dros y penwythnos.
Bu farw dyn 20 oed yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A499 rhwng Llanaelhaearn a'r Ffor tua 22.10 nos Sadwrn
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng Ford Fiesta du ac Audi A3 coch.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw gyrrwr y Ford Fiesta yn y fan a'r lle.
'Tristwch mawr'
Dywedodd y Cynghorydd Richard Glyn Roberts sy’n cynrychioli ward Abererch fod yna ‘dristwch mawr’ yn lleol ond nad oedd clywed y newyddion ‘yn sioc’.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y byddan nhw’n cydweithio gyda Heddlu’r Gogledd.
Yn ôl y Cynghorydd Roberts mae’r gwrthdrawiad dros y penwythnos yn brawf o’r angen am newidiadau.
“Mae pobl leol wedi bod yn son am y peryg ar y safle yna, ar y lôn sydd rhwng Pont-Rhyd-y-Groch a Phwllheli a’r traffig yn gyrru," meddai.
“[Mae ‘na] angen am linellau gwynion, cyfyngiadau cyflymder a mwy o fesurau i reoli’r traffig yna.
“Dwi wedi codi’r pryderon yma ac mae’r cyngor cymuned wedi codi pryderon... arafwch sydd ‘na i ymateb."
Ychwanegodd: “Fydd hi ddim yn gysur i’r dioddefwyr ar ôl y ddamwain yma y bydd o bosib symud i neud rhywbeth yn rhy hwyr.
“Ond mi fasa’n dda symud i neud rhywbeth rŵan rhag i hyn ddigwydd eto."
'Trasig'
Wrth ymateb dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn “meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn”.
“[Rydym] yn estyn ein cydymdeimlad i deulu’r person a fu farw.
“Fel yn achos pob damwain angheuol, byddwn yn cyd weithio’n agos gyda’r Heddlu ac yn ystyried os oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd yn seiliedig ar gasgliadau’r ymchwiliad.”
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth y dyn ifanc yn y ddamwain.
Mae ei berthnasau agosaf a'r crwner rhanbarthol wedi cael gwybod.
Cafodd tri pherson arall eu hanafu yn ddifrifol ac maen nhw'n parhau yn yr ysbyty.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd y ffordd ei chau dros nos tra bod archwiliadau ac ymholiadau'n cael eu cynnal ar y safle.
Dywedodd y prif swyddog ymchwilio, Sarjant Duncan Logan o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i'r teulu yn yr amser anodd hwn."
"Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a stopiodd i gynorthwyo yn y fan a'r lle a chefnogi'r gwasanaethau brys.
"Rwy'n annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod wedi bod yn teithio neu'n cerdded yn y cyffiniau ac sydd â lluniau ffôn symudol neu gamera dashcam, i gysylltu cyn gynted â phosib."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000247901.