Galw am leihau diweithdra ymhlith pobl ifanc i 'Neet Zero' erbyn 2036
Dylai diweithdra ymhlith pobl ifanc gael ei leihau i lefel o “Neet Zero” o fewn 10 mlynedd, yn ôl adolygiad newydd.
Mae Alan Milburn, sydd wedi bod yn arwain ymchwiliad blwyddyn o hyd i’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r nifer uchel o bobl dan 25 oed sydd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant (NEET), wedi galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r targed.
Fe wnaeth nifer y NEETs godi i dros filiwn yn gynharach eleni, a hynny am y tro cyntaf ers mwy na degawd.
Mae cyn-Ysgrifennydd Iechyd Llafur wedi rhybuddio y gallai’r gyfran godi o un o bob wyth i un o bob chwech erbyn 2031 - sy’n cyfateb i 1.25 miliwn o bobl ifanc.
Yn ei adroddiad 267 tudalen, mae’n argymell lleihau’r gyfradd NEET o 13.4% i tua 6.8% erbyn 2036, er mwyn dod â’r DU yn unol â gwledydd Ewropeaidd tebyg.
Ond mae’n dweud y dylai’r DU fynd ymhellach, gan osod targed newydd o 5%, sef “Neet Zero”.
Dywedodd: “Dylai pob person ifanc fod yn dysgu, yn ennill neu’n cymryd rhan weithredol mewn cymdeithas.
“Erbyn 2036, dylai’r DU anelu at ostwng y gyfradd NEET i tua 5% a bod ymhlith gwledydd sy’n perfformio orau yn Ewrop o ran cyfranogiad pobl ifanc.”
Byddai hynny’n golygu bod tua 600,000 yn fwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant bob blwyddyn.
Mae Mr Milburn am i’r Llywodraeth ymrwymo i’r targed o fewn 100 diwrnod i gyhoeddi’r adroddiad ddydd Mawrth.
Pryder am lai o gymorth ariannol
Ymhlith ei argymhellion mae cynnig hyd at £7,000 i gyflogwyr sy’n recriwtio pobl dan 25 oed sydd wedi bod yn NEET am chwe mis.
Mae hefyd am leihau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer gweithwyr rhwng 21 a 24 oed dros gyfnod o bum mlynedd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar fusnesau yn y sectorau lletygarwch a manwerthu.
Byddai hynny’n gwrthdroi’n rhannol y cynnydd mewn cyfraniadau a gyflwynwyd gan y cyn Ganghellor Rachel Reeves.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am ddyblu nifer y prentisiaethau erbyn 2036 a rhoi mwy o bwyslais ar addysg dechnegol a galwedigaethol.
Argymhelliad arall yw sefydlu gwasanaeth cyfleoedd newydd i bobl ifanc, gyda’r bwriad o fod yn un man cyswllt ar gyfer cymorth ynghylch gwaith, gyrfaoedd, iechyd a materion ymarferol.
Ond mae cynnig i ddisodli hawl pobl ifanc i rai budd-daliadau salwch ac anabledd gyda lwfans ieuenctid newydd wedi denu beirniadaeth gan elusennau.
Dywedodd Katie Schmuecker o’r Joseph Rowntree Foundation na ddylai torri budd-daliadau pobl ifanc sâl ac anabl fod yn rhan o’r cynllun.
Ychwanegodd: "Mae cymorth ariannol yn rhan bwysig o alluogi pobl ifanc i gael gwaith neu addysg.
"Ni fydd y cymorth ehangach yn llwyddo os yw’r bobl ifanc yr ydym yn bwriadu eu helpu hefyd yn ei chael hi’n anodd fforddio bwyd neu dalu am y bws i’r coleg.
"Mae ein system nawdd cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o atal tlodi a helpu pobl ifanc i symud ymlaen â’u bywydau.
"Byddai rhwyd ddiogelwch ddigonol, sy’n talu costau’r hanfodion o leiaf, yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gymryd y camau nesaf sydd eu hangen arnyn nhw i gael gwaith neu addysg."
Llywodraethau datganoledig i ystyried yr argymhellion
Mae Mr Milburn wedi cyfaddef na fyddai ei gynigion heb gost, a gallai rhai pobl dderbyn llai o gymorth ariannol.
Ond mae’n dweud y byddai buddsoddi mewn hyfforddiant, swyddi a chymorth yn dod cyn unrhyw newidiadau i fudd-daliadau.
Rhybuddiodd y byddai methu â gweithredu yn golygu cost gynyddol i’r wladwriaeth wrth i fwy o bobl ifanc aros allan o’r farchnad lafur.
Mae’n disgrifio’r cynllun fel rhaglen 10 mlynedd, gyda’r arbedion ar fudd-daliadau yn dechrau yn 2029.
Gallai’r arbedion gyrraedd £13.7 biliwn o fewn degawd, ychwanegodd.
Er bod yr adroddiad yn ymwneud â’r DU gyfan, cyfrifoldeb llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fydd ystyried sut i weithredu’r argymhellion.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau’r wrthblaid, Helen Whately, fod y Ceidwadwyr yn cytuno â’r angen i fynd i’r afael â’r broblem, ond yn dadlau bod angen trethi is a llai o fiwrocratiaeth i greu swyddi.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, fod angen cynllun economaidd ehangach, gan gynnwys dileu treth swyddi Llafur ac ailgysylltu â marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.
Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd addysg Reform UK, Suella Braverman, fod yr alwad i leihau costau cyflogi yn gyfaddefiad bod cynnydd Llafur mewn trethi cyflogwyr wedi "methu".
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden, gyflwyno prif elfennau ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth.