Galw ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf i ferwi dŵr ar ôl 'problem gyda phroses gemegol'
Mae Dŵr Cymru wedi gofyn i rai cymunedau yn Rhondda Cynon Taf ferwi eu dŵr ar ôl problem gyda'r broses gemegol yn un o’u gorsafoedd trin dŵr.
Mae cwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio yn derbyn negeseuon testun ac mae gwybodaeth ychwanegol ar eu gwefan, meddai’r cwmni.
Maen Dŵr Cymru wedi sefydlu gorsafoedd dŵr potel gan ddarparu dŵr mewn poteli'n uniongyrchol i’w cwsmeriaid mwyaf bregus, meddai llefarydd.
“Rydym wedi darganfod problem yn gynharach bore yma gyda'r broses gemegol rydym yn ei defnyddio i drin dŵr yfed yng Ngorsaf Trin Dŵr Maerdy,” meddai Dŵr Cymru.
“Fel mesur rhagofalus, ataliwyd dŵr o'r safle rhag cyrraedd ein rhwydwaith tra’n bod yn ymchwilio ac yn datrys y broblem.
“Bydd cwsmeriaid yn parhau i dderbyn cyflenwad dŵr ac nid ydym yn disgwyl i unrhyw un i golli eu cyflenwad.”
Mae’r cwmni yn gofyn i gwsmeriaid i ferwi dŵr tap cyn ei yfed, brwsio dannedd, paratoi bwyd neu wneud iâ, fel mesur rhagofalus yn yr ardaloedd yma:
- Blaenllechau
- Bryngolau
- Cymmer
- Dinas
- Edmondstown
- Glynrhedynog
- Trehopcyn
- Llwyncelyn
- Maerdy
- Pendyrus
- Penrhys
- Pontygwaith
- Porth
- Pwll Gwaun
- Pantygraigwen
- Pontypridd
- Treforest
- Trebanog
- Rhiwgarn
- Tonyrefail
- Tyn Y Bryn
- Trehafod
- Aberllechau
- Trewilliam
- Ynyshir.
I gadarnhau a oes angen berwi eich dŵr, gall cwsmeriaid ddefnyddio gwiriwr cod post ar-lein: dwrcymru.com.
“Mae'n ddrwg gennym am yr anghyfleustra ac rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl i ddatrys y mater yn ddiogel,” meddai'r cwmni.
“Unwaith y caiff y mater ei ddatrys, bydd y gwaith trin dŵr yn mynd yn ôl i ddarparu dŵr yn y ffordd arferol. “