Galw am ddisodli Fiesta’r Macrell yn Aberaeron gyda dathliad o fresych

Mae PETA wedi cynnig enghraifft o sut fyddai model bresych yn edrych - Lluniau: Clwb Hwylio Aberaeron/PETA
Ffiesta Fecryll Aberaeron

Mae grŵp hawliau anifeiliaid wedi galw ar drefnwyr gŵyl Ffiesta Mecryll Aberaeron i gynnal dathliad o fresych yn ei lle.

Mae’r grŵp sy’n ymgyrchu dros hawliau anifeiliaid, PETA, wedi ysgrifennu at lywydd Clwb Hwylio Aberaeron, Lloyd Thomas, yn ei annog i droi’r digwyddiad blynyddol yn “Ffiesta Bresych Aberaeron”.

Mae’r grŵp hefyd wedi cynnig darparu model mawr o fresych wedi’i wneud o papier-mâché i gymryd lle’r macrell traddodiadol

Mae Ffiesta Mecryll Aberaeron yn cael ei chynnal tua diwedd mis Awst bob blwyddyn i nodi diwedd tymor y macrell.

Fel rhan o’r digwyddiad, mae gorymdaith angladdol sy’n cynnwys model 20 troedfedd o hyd o facrell yn teithio drwy’r dref i Glwb Hwylio Aberaeron.

Mae galarwyr yn dilyn y model cyn iddo gael ei fendithio gan y ficer lleol er mwyn sicrhau cyflenwad helaeth o fecryll y tymor canlynol.

Yn dilyn gwylnos yn y clwb, mae’r model yn cael ei gario i’r traeth a’i amlosgi wrth i’r haul fachlud.

Yn eu llythyr, mae PETA yn annog y trefnwyr i “adael y pysgod oddi ar y bachyn” a throi’r digwyddiad yn ddathliad o gynnyrch Cymru.

“Mae pysgod yn dioddef yn aruthrol pan fydd bachau’n tyllu eu hwynebau bregus, ac maen nhw’n aml yn profi’r hyn mae arbenigwyr yn ei alw’n ‘salwch datgywasgu ar steroidau’ pan fyddan nhw’n cael eu tynnu o’r dyfnderoedd,” meddai’r llythyr.

“Rydym yn gwybod bod pysgod yn teimlo poen, straen ac ofn.”

Dywedodd PETA y byddai dathlu cynnyrch planhigion yn hytrach na physgod yn “fwy cydnaws â’r tosturi a’r cynhesrwydd y mae Cymru’n adnabyddus amdanynt”.

Ychwanegodd y byddai’n cefnogi tyfwyr lleol fel Fferm Organig Blaencamel, sy’n tyfu bresych a ffenigl ar 50 erw yng Ngheredigion.

“Pe baech yn cytuno i ganolbwyntio’r fiesta ar lysiau deiliog yn hytrach na bodau sy’n medru teimlo, byddem yn falch iawn o ddarparu bresychyn papier-mâché enfawr i gymryd lle’r model o facrell,” meddai’r grŵp.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli Aberaeron i droi dalen newydd a gadael i’r mecryll nofio’n rhydd.”

Ond dywedodd y cynghorydd lleol Elizabeth Evans fod y fiesta yn dathlu pysgodyn sydd wedi bod yn nyfroedd yr ardal ers cenedlaethau.

“Mae’n ŵyl o ddiolchgarwch a pharch,” meddai.

“Rydym wedi troi ein cefnau ar y môr fel cymunedau arfordirol. Nid oes gennym un cwch pysgota yn Aberaeron bellach, ac mae hynny’n destun gofid yn hytrach na dathlu.

“Eto nid yw Bae Ceredigion wedi’i orbysgota, ac mae perchnogion y cychod lleol sy’n pysgota’r dyfroedd hyn yn gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy.”

Ychwanegodd fod pysgota yn rhan o dreftadaeth Aberaeron, ond nad yw tyfu bresych yn rhan ohoni.

“Er fy mod yn parchu’r safbwyntiau a fynegwyd yn llythyr PETA, nid yw’n adlewyrchu ein profiad ni fel cymuned, sef un o barch ac nid hawl,” meddai.

“Mae’r treill-longau diwydiannol enfawr sy’n pysgota yn y dyfroedd o amgylch y DU yn fater hollol wahanol.”

Mae Clwb Hwylio Aberaeron wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.