Fydd ASau Reform ’nôl yn y Senedd ar gyfer eu dadl am ryddid mynegiant?
Mae un o aelodau Reform yn y Senedd wedi dweud bod ASau’r blaid “yn debygol” o fod yn ôl yn y Siambr ar gyfer dadl am ryddid mynegiant ddydd Mercher.
Wythnos yn ôl, fe ddechreuodd y blaid foicot mewn ymateb i gyhoeddiad Llywydd y Senedd na fyddai'n galw’r AS Joe Martin i siarad yn dilyn sylwadau ynghylch pobl wyn a demograffeg y Deyrnas Unedig.
Roedd y boicot dal yn ei le ddydd Mawrth, gydag arweinydd Reform yn y Senedd, Helen Jenner, yn dweud ei bod “ddim yn fodlon â’r cynnydd sydd wedi’i wneud” mewn trafodaethau gyda’r Llywydd, Huw Irranca-Davies.
Ond ddydd Mercher, mae dadl wedi ei threfnu - ar gais un o aelodau Reform - ynghylch rhyddid mynegiant.
Wrth siarad gydag ITV Wales nos Fawrth, dywedodd un o ASau'r blaid ei bod hi'n debygol y bydden nhw'n bresennol ar gyfer y ddadl honno.
"Dwi'n credu ei bod hi'n debygol y byddwn ni yno fory," meddai Carmelo Colasanto, sy'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin, ar raglen Sharp End.
"Dydw i ddim yn rhan o'r holl benderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Ond ry'n ni'n gweithio gyda'r Llywydd i geisio datrys y broblem yma mewn ffordd drefnus."
Ychwanegodd bod "trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng y tîm arweinyddol a'r Llywydd y ddod o hyd i ffordd drwy hyn."
Beth yw'r ddadl?
Yn ystod y boicot, mae tîm Reform wedi methu dadleuon Seneddol ar sawl mater o bwys, gan gynnwys cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gafodd ei chyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae hyn wedi arwain at feirniadaeth gan bleidiau eraill, sy'n cyhuddo Reform o fethu â chyflawni ei dyletswyddau fel y brif wrthblaid.
Wrth siarad ar banel Sharp End, amddiffynnodd Mr Colasanto eu safiad, gan ddweud bod y blaid yn sefyll dros ei hegwyddorion.
Er nad oedd awgrym ddydd Mawrth bod y boicot ar fin dod i ben, fe allai'r ddadl sydd wedi ei threfnu ar gyfer cyfarfod llawn y Senedd brynhawn Mercher newid pethau.
Mae awr wedi ei neilltuo i drafod cais AS dylanwadol Reform, Llŷr Powell, i drafod y cynnig bod y Senedd "yn credu y dylid cynnal ac amddiffyn yr egwyddor o ryddid i lefaru."
Mae gwelliant wedi ei gynnig hefyd gan Heledd Fychan, sy'n AS Plaid Cymru ac yn weinidog diwylliant, gyda chefnogaeth aelodau o'r Blaid Lafur, y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae'r gwelliant hwnnw'n nodi bod "rhyddid i lefaru yn hawl sylfaenol ac iddo ddyletswyddau a chyfrifoldebau, a bod rhaid ei arfer o fewn y gyfraith, gan gynnwys amddiffyniadau cyfreithiol rhag iaith sy’n annog casineb neu niwed, yn bygwth hawliau neu ddiogelwch eraill, neu sy’n achosi ofn trais, pryder neu drallod."
Yn ogystal, mae'n ychwanegu bod angen i ASau "weithredu o fewn terfynau" rheolau'r Senedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2122776657383874747
Pam y boicot?
Mae boicot Reform yn deillio o waharddiad ar gyfraniadau gan Joe Martin yn dilyn ei sylwadau yn y Senedd ddydd Mawrth diwethaf.
Dywedodd: “Ga i ddatganiad gan eich Llywodraeth am y newid demograffig sy’n golygu bod pobl eraill yn cymryd lle pobl wyn Prydeinig yn y DU.
“Oherwydd mae maint y newid wedi bod yn syfrdanol.
“Mae mewnfudo torfol a chyfraddau geni gwahanol yn golygu, mewn dim ond 37 mlynedd, yn 2063, y byddwn yn lleiafrif yn ein gwlad ein hunain.
“Mae’r newid hwnnw eisoes wedi digwydd yn Llundain, Birmingham, Caerlŷr, Slough, Luton a Manceinion, a dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd yma.”
Yn ddiweddarach yn y prynhawn, dywedodd y Llywydd ei fod yn ystyried sylwadau Mr Martin yn rhai “diangen o bryfoclyd a bwriadol sarhaus”.
Dywedodd: “Er ei bod bob amser yn bosibl codi materion polisi dilys yn ymwneud â mewnfudo yn y Siambr hon, roedd ffocws y cyfraniad hwnnw ar hil ac ethnigrwydd yn amlwg yn wahaniaethol, yn sarhaus, ac yn tanseilio urddas y Senedd.”
Bydd y gwaharddiad rhag siarad yn ystod trafodion y Senedd yn parhau nes bod Mr Martin yn ymddiheuro yn y Siambr, meddai.
Mae wedi dweud nad yw’n bwriadu gwneud hynny.