Y Frenhines ‘wedi cynnig adfer teitl Diana ar ôl ei marwolaeth’

Tywysoges Diana

Roedd y Frenhines Elizabeth II wedi cynnig adfer teitl ‘HRH’ i Diana, Tywysoges Cymru, ar ôl ei marwolaeth, yn ôl ei brawd Iarll Spencer.

Yn y darn diweddaraf o lyfr yr iarll sy’n cael ei gyhoeddi fesul rhan yn y Daily Mail, dywedodd fod y ddiweddar Frenhines wedi gwneud y cynnig ar ôl angladd ei chwaer.

Fe gollodd Diana ei theitl Ei Huchelder Brenhinol (Her Royal Highness) ar ôl iddi ysgaru Charles yn 1992.

Dywedodd Iarll Spencer ei fod yn teithio ar y trên brenhinol i Althorp, cartref teuluol y teulu Spencer, ar ôl angladd Diana.

Yn ystod y daith, fe wnaeth ysgrifennydd preifat y ddiweddar Frenhines, Robert Fellowes, wneud y cynnig ar ôl i Elizabeth ei ffonio.

Wrth geisio “deall arwyddocâd” yr awgrym, dywedodd yr iarll ei fod wedi ystyried beth fyddai ei chwaer ei eisiau.

“Roedd colli’r teitl hwnnw wrth i’w phriodas ddod i ben wedi ei brifo’n ofnadwy,” meddai.

“Roedd wedi ymddangos fel dial. Er na fyddai hi bellach yn briod ag un darpar frenin, byddai hi bob amser yn fam i un arall.”

Roedd yr iarll yn cofio dweud wrth Mr Fellowes fod cynnig Elizabeth yn “garedig iawn”, ond nad oedd yn gweld pwynt adfer ei theitl.

Ychwanegodd: “Hynny yw, mae Diana wedi marw.”

‘Gwyllt gacwn’

Mae’r iarll wedi gwneud cyfres o honiadau damniol am y Brenin yn y llyfr newydd.

Fe wnaeth hynny ysgogi ymateb prin gan Balas Buckingham, a ddywedodd y “gall poen galar am frawd neu chwaer gymylu rheswm”.

Mewn darn o gyfweliad â’r BBC a gafodd ei ryddhau ddydd Gwener, mynnodd yr iarll ei fod yn “dweud y gwir”. Disgrifiodd sylwadau’r Brenin am ei chwaer fel rhai “erchyll”.

Dywedodd yr iarll yn ei lyfr bod Charles wedi mynd yn “wyllt gacwn” yn ystod cyfarfod i drafod trefniadau angladd Diana.

“Fe wnaeth o rantio am sbel, does gen i ddim syniad pa mor hir, ond roedd hi’n gryn amser, a gwrando wnes i,” meddai.

“Ac yna fe stopiodd, ac fe feddyliais i, ‘O, nawr mae e’n mynd i gael gafael arno’i hun a dweud rhywbeth mwy priodol’.

“Ac yna fe ddywedodd, ‘Byddwn ni’n anghofio amdani’n ddigon buan’.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo “dystiolaeth” o sylwadau’r Brenin, dywedodd yr iarll wrth y BBC:

“Fe ddywedais i wrth ffrindiau a theulu yn syth, ffrindiau agos a theulu, am yr hyn oedd wedi cael ei ddweud, oherwydd roedd mor erchyll.”

Bydd cyfweliad llawn yr iarll â Laura Kuenssberg ar gael i’w wylio ar BBC iPlayer ddydd Sul o 16.00. Bydd yn cael ei ddarlledu ar BBC One am 18.30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.