Ffi'r drwydded 'wedi dyddio' ac angen ei newid i sicrhau dyfodol y BBC - ASau

BBC/PA

Mae ffi’r drwydded sy’n ariannu’r BBC ac S4C “wedi dyddio” ac angen ei diwygio, yn ôl adroddiad gan Aelodau Seneddol, sy’n dweud bod angen symud i ffwrdd o system sy’n cysylltu’r angen i dalu â set deledu yn y cartref.

Daw adroddiad ac argymhellion Pwyllgor yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn y Senedd yn San Steffan wrth i Lywodraeth y DU adolygu siarter y BBC, sydd angen ei hadnewyddu y flwyddyn nesaf i osod trefniadau rheolaethol ac ariannol y gorfforaeth o 2028 ymlaen.

Fe fydd y penderfyniad yn cael dylanwad mawr ar S4C hefyd, gan fod y darlledwr Cymraeg yn derbyn y rhan fwyaf o’i arian o’r un ffynhonnell.

Mae’r pwyllgor, sy'n cynnwys aelodau o sawl plaid, yn rhybuddio bydd y BBC yn “cael ei adael i grebachu a dirywio” heb newid, gan ychwanegu na ddylai hynny ddigwydd.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn cytuno efo’r pwyllgor fod angen “BBC uchelgeisiol a dyfeisgar” ac y byddan nhw’n “adolygu ac ystyried argymhellion y pwyllgor yn fanwl”.

Galw am ddiwygio

Mae lleihad yn yr incwm o ffi’r drwydded yn un o’r rhesymau dros y pwysau ariannol sylweddol ar y BBC ar hyn o bryd, sydd wedi arwain at don o doriadau i wasanaethau a niferoedd staff, gan gynnwys yng Nghymru.

Yn yr adroddiad, dywedodd y pwyllgor o ASau fod y ffi yn ei ffurf bresennol “wedi dyddio a ddim yn addas i bwrpas,” gan awgrymu y dylai fod yn rhatach na’r pris cyfredol o £180 y flwyddyn i annog mwy i dalu.

Ar hyn o bryd, mae angen cael trwydded er mwyn gwylio rhaglenni ar unrhyw sianel deledu, ar BBC iPlayer, neu yn fyw ar wasanaethau ffrydio. 

Ond yn yr adroddiad, mae’r gwleidyddion yn ystyried ystod o opsiynau amgen i ariannu prif ddarlledwr cyhoeddus y DU, gan ddweud mai newid sylfeini ffi’r drwydded yw’r ffordd ymlaen.

“Y cam nesaf gorau i’r llywodraeth yw i ddiwygio ffi’r drwydded, fel ei bod yn adlewyrchu arferion modern o defnyddio’r cyfryngau a ddim yn gysylltiedig â set deledu bellach,” meddai’r ASau.

“Fe fyddai’n haws perswadio’r rheiny sy’n talu i ffi’r drwydded os byddai ehangu’r niferoedd yn mynd law yn llaw â chwymp yn y gost unigol.”

Colli £1.2 biliwn 

Fe ddywedodd swyddogion y BBC yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor fod y gorfforaeth wedi colli rhwng £1.2 biliwn a £1.3 biliwn mewn cyllid o’r ffi dros y degawd diwethaf, a bod 40% o hynny oherwydd cwymp yn y nifer sy’n talu am drwydded. 

Dywedodd hefyd fod 94% o aelwydydd y DU yn defnyddio’i gwasanaethau, ond dim ond 80% yn talu amdanyn nhw.

Ymhlith yr opsiynau eraill i ariannu’r BBC sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad mae ardollau aelwyd, sef ffi fyddai’n rhaid i bob cartref ei thalu hyd yn oed os nad ydyn nhw’n defnyddio’r BBC.

Dywedodd y pwyllgor fod “dadleuon cryf” o blaid cyflwyno system o’r fath, sydd eisoes ar waith yn yr Almaen, y Swistir ac Awstria, ond dywedodd fod ‘na “heriau gweithredu sylweddol” sy’n golygu na fyddai modd ei weithredu yn y tymor byr.

Er hynny, ychwanegodd na ddylai’r llywodraeth fod wedi diystyru’r syniad yn llwyr.

Diddymu adolygiad siarter?

Dywedodd yr ASau hefyd fod y ffaith fod yn rhaid i siarter y BBC gael ei hadnewyddu bob degawd yn niweidiol i’r gorfforaeth ac yn “creu cyfle am ymyrraeth wleidyddol a allai gael ei osgoi”.

Awgrymodd y pwyllgor y dylai’r siarter nesaf fod yn un parhaol “heb ddyddiad terfyn.” Fe ddywedon nhw hefyd y dylai’r gorfforaeth osgoi penodi gwleidyddion i’w bwrdd ac ystyried cyflwyno proses annibynnol pan mae’n penodi cadeirydd.

Ar yr un pryd, awgrymodd y dylai’r BBC World Service, oedd yn arfer cael ei ariannu’n bennaf gan y llywodraeth, ddychwelyd i’r drefn honno er mwyn gwireddu ei botensial.

Image
S4C Yr Egin

S4C a'r iPlayer

Does dim llawer o sôn am S4C yn yr adroddiad, ond mae’r darlledwr yn ddibynnol ar arian o ffi’r drwydded, gyda phrif weithredwr y sianel yn rhybuddio ddechrau Medi bod dyfodol darlledu Cymraeg “yn y fantol”.

Un agwedd o gynnig y sianel Gymraeg sy’n cael sylw’r ASau yw ei phresenoldeb ar lwyfan ffrydio’r BBC, yr iPlayer.

Arwyddodd S4C a’r BBC gytundeb partneriaeth yn gynharach eleni, sy'n rhoi lle mwy blaenllaw i gynnwys S4C ar yr iPlayer. Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’r cytundeb, gan awgrymu bod gwasanaeth digidol S4C Clic yn cael ei “wthio i’r ymylon”.

Ond yn ôl y pwyllgor seneddol, mae’n fodel y dylai darlledwyr cyhoeddus fel Channel 4 eraill ei ddilyn er mwyn sicrhau gwasanaeth “eang” fyddai “o fudd i gynulleidfaoedd a’r diwydiant yn y tymor hir”.

“Rydym yn gefnogol iawn i agor iPlayer i gynnwys gan ddarlledwyr cyhoeddus eraill,” meddai’r ddogfen. “Rydym yn deall fod Channel 4 mewn trafodaethau gyda’r BBC am y cyfle, a fyddai’n adeiladu ar y trefniant sydd eisoes mewn lle rhwng y BBC ac S4C.”

Croesawu'r adroddiad

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae'r Llywodraeth yn cytuno’n llwyr â chasgliad y Pwyllgor ei bod er budd gorau’r wlad i’r Siarter nesaf gefnogi BBC uchelgeisiol ac arloesol, ac na ellir gadael y gorfforaeth i wynebu dyfodol o ddirywiad rheoledig.

“Byddwn yn adolygu ac yn ystyried argymhellion y pwyllgor yn fanwl, ochr yn ochr â barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, er mwyn llywio penderfyniadau ar gyfer y Siarter Frenhinol nesaf.”

Croesawodd y BBC yr “adroddiad cynhwysfawr” a’i “argymhellion pwysig a diddorol” am ddyfodol y darlledwr.

“Rydym wedi dadlau’n gyson bod y model ariannu presennol wedi dyddio ac angen ei ddiwygio, felly rydym yn croesawu cefnogaeth y Pwyllgor i gynnal ariannu cyffredinol tra’n ailwampio’r ffi drwydded yn sylweddol,” meddai llefarydd.

“Ar adeg o aflonyddwch mawr yn y byd cyfryngau, mae ymddiriedaeth, cyrhaeddiad a nerth creadigol y BBC yn parhau i fod yn ddigymar. Ond rydym hefyd yn cydnabod yr angen i esblygu a symud yn gynt tuag at y dyfodol.

“Byddwn yn ystyried adroddiad y Pwyllgor ac yn parhau i ymgysylltu â’r Llywodraeth i sicrhau BBC sy’n cyflawni ar gyfer pawb am genedlaethau i ddod.”

Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod y sianel yn “croesawu cydnabyddiaeth” y pwyllgor o’r angen am “fodel ariannu cynaliadwy a theg ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus”.

Cyfeiriodd hefyd at gasgliad pwyllgor seneddol arall sydd wedi galw am ddiogelu dyfodol y darlledwr Cymraeg.

“Mae cyllid digonol a hirdymor yn hanfodol i ddyfodol S4C, ac rydym yn croesawu galwad y Pwyllgor Materion Cymreig ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau hynny,” meddai.

“Byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos dros setliad sy’n diogelu dyfodol S4C wrth i’r Adolygiad Siarter fynd rhagddo.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.