Ffermwr wedi marw ar ôl cael ei wasgu yn erbyn wal
Mae cwest wedi clywed bod ffermwr wedi marw ddechrau'r mis, ar ôl iddo gael ei ddal rhwng peiriant chwistrellu a wal wrth ymyl sied wartheg.
Agorodd y cwest yn Rhuthun i farwolaeth Peter Hughes, 46 oed, o Fferm Whitegate ger Wrecsam fore Llun.
Dywedodd y crwner John Gittins fod hynny wedi digwydd ger sied wartheg.
Roedd yn ymddangos bod Mr Hughes wedi’u ddal gan beiriannau tractor.
Roedd tystiolaeth o anaf gwasgu er bod penderfyniad am achos y farwolaeth wedi cael ei ohirio er mwyn i ragor o brofion gael eu cynnal.
Dywedodd Mr Gittins fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael eu hysbysu.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.