'Ffenestri ac arwyddion wedi eu difrodi' ar ystâd Gregynog
Mae ystâd 750 erw hanesyddol yng nghanolbarth Cymru yn dweud eu bod wedi profi fandaliaeth yn ddiweddar.
Mewn datganiad, fe ddywedodd ystâd Gregynog ym Mhowys fod ffenestri wedi eu malu, toiledau cyhoeddus wedi eu gadael mewn cyflwr ofnadwy, ac arwyddion wedi eu difrodi, eu tynnu, a'u taflu o gwmpas.
Ychwanegodd y datganiad fod tanau wedi cael eu cynnau yn eu coedwigoedd dros y dyddiau diwethaf hefyd.
"Ni fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei ddioddef. Os oes rhywun yn cael eu dal yn difrodi eiddo ar yr ystâd yn fwriadol, fe fyddwn ni'n adrodd am y mater i'r heddlu," meddai'r datganiad.
"Mae Gregynog yn ymddiriedolaeth elusennol sy'n gweithio'n galed i adfer a chadw'r lle arbennig hwn i bawb ei fwynhau. Mae pob gweithred o fandaliaeth yn amharu ar amser ac adnoddau gwerthfawr gan ein gwthio ni'n ôl yn hytrach na'n helpu ni i symud ymlaen."
Mae plasdy wedi bod ar y tir ers y 12fed ganrif ac er bod y tŷ presennol yn tua 150 mlwydd oed, mae elfennau hŷn y tŷ wedi’u hymgorffori yn yr adeilad presennol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd Gregynog yn cael ei ddefnyddio gan y Groes Goch fel cartref gwella.
Roedd Gregynog yn eiddo i Brifysgol Cymru ers 1964, gyda chyrsiau, cynadleddau a chyngherddau yn cael eu cynnal yno.
Ers 2019, Ymddiriedolaeth Gregynog y’n berchen ar yr ystâd.
Llun: Gregynog / Facebook