O Ferthyr i Istanbwl: Mynd â'r iaith Gymraeg ar daith drwy 12 o wledydd
O Ferthyr i Istanbwl: Mynd â'r iaith Gymraeg ar daith drwy 12 o wledydd
Mae Jamie Bevan, cyn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wrthi yn cerdded o Ferthyr Tudful yn ne Cymru i ben draw Ewrop yn Istanbwl, a hynny er mwyn hyrwyddo gwaith Cylch Meithrin y Gurnos, sy’n darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ifanc.
Yng nghanol coedwig yn Hwngari, dywedodd Jamie wrth Newyddion S4C ei fod o hanner ffordd drwy ei daith erbyn hyn.
Wrth rannu ei holl antur ar-lein, mae Jamie wedi denu miliynau o wylwyr o hyd a lled Cymru a'r byd, gan hybu gwaith y cylch meithrin a diwylliant ac iaith Cymru.
“Pam ydw i'n cerdded i Istanbwl?" gofynnai.
“Wel, ar wahân i'r dyheuad am antur ac i wneud rhywbeth mawr, dwi'n cerdded 5,000 o gilometrau yn codi arian i Gylch Meithrin y Gurnos yn Merthyr Tudful.”
Yn ôl Jamie, mae Cylch Meithrin y Gurnos yn “fwy na lleoliad gofal plant. Mae'n achubiaeth i deuluoedd yn y Gurnos, Merthyr Tudful, ardal lle gall tlodi, heriau cymdeithasol, a diffyg cyfle lunio dyfodol plentyn cyn iddynt hyd yn oed ddechrau ysgol.”
Dywedodd wrth Newyddion S4C fod y gwaith y mae’r staff yn ei wneud gyda’r plant yn “anhygoel”.
Ar y dudalen GoFundMe, mae'n dweud fod Cylch Meithrin y Gurnos yn rhoi "cyfle gwirioneddol i blant ffynnu. Maen nhw'n cael eu croesawu i ofod diogel, gofalgar lle gallant chwarae, dysgu a thyfu.
“Trwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r lleoliad yn cynnig rhodd dwyieithrwydd iddynt, mantais gydol oes y profwyd ei bod yn gwella gallu gwybyddol, cysylltiad diwylliannol, a chyfleoedd yn y dyfodol.”
‘Dyfodol disglair’
Dywedodd fod Cylch Meithrin y Gurnos yn darparu gofal meithrin ar gyfer plant sydd yn byw mewn ardal “ddifreintiedig iawn”.
Mae Ystâd y Gurnos yng ngogledd Merthyr Tudful yn un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig.
A barn Jamie yw bod y plant yma yn haeddu yr un cyfleoedd i ddysgu'r iaith Gymraeg â phlant ym mhobman arall.
“Mae'r safon a’r gwaith mae'r staff yn y Meithrin yn ei wneud gyda'r plant yn anhygoel ac mae yn cynyddu diddordeb yn yr iaith Gymraeg mewn ardal falle sydd angen mwy o gyfleoedd," meddai.
"Da ni wedi codi dros £10,000 yn barod i'r Meithrin, a doeddwn i ddim yn disgwyl hwnna pryd wnes i ddechrau ar y daith.”
Yn Cylch Meithrin y Gurnos, “mae plant yn cael eu cyflwyno i'r Gymraeg o'r cychwyn cyntaf, gan helpu i gadw'r iaith yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn cartrefi, cymunedau, a bywyd bob dydd".
Erbyn diwedd ei daith, bydd Jamie wedi cerdded drwy tua 12 o wledydd gwahanol, gan ddechrau yn y Cymoedd yn ne Cymru a gorffen yn Istanbwl, sy’n eistedd rhwng Ewrop ac Asia.
Rhannu ein diwylliant
Wrth sôn am ddewis ble bydd ei daith yn gorffen, dywedodd Jamie: “I fod yn honest, nes i ddewis Istanbwl trwy edrych ar fap. Oedd e'n edrych yn digon bell, digon exotic a digon o her.
“Erbyn i mi orffen, bydda'i wedi pasio trwy 12 o wledydd gwahanol. Bydda'i wedi mynd â’r iaith Gymraeg trwy'r gwledydd yma, yn rhannu fy niwylliant, rhannu fy iaith, a hefyd dysgu am ddiwylliannau a ieithoedd gwledydd eraill.”
Ac yn bwysicach oll, dywedodd Jamie mai “dyna beth yw bywyd, cyfrifoldeb mawr i rannu beth sydd 'da ni a dangos diddordeb mewn beth sydd gyda pobl eraill i'w gynnig.
“Dyna be' dwi'n ei wneud.”
Ag yn bwysicach oll, dywedodd Jamie bod 'dyna beth mae bywyd, cyfrifoldeb mawr i rannu beth sydd 'da ni a dangos diddordeb mewn beth sydd gyda pobl eraill i gynnig.
'Dyna be' dwi'n ei wneud.'