'Fe wnaeth rhywun boeri arna i': Canran uchel o fenywod y de wedi eu haflonyddu wrth redeg

Llun: Gwenlli Morgan
Gwenlli Rhedeg

Wrth i filoedd heidio i'r brifddinas ddydd Sul ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, mae ffigyrau newydd yn awgrymu bod canran uchel o fenywod de Cymru sydd yn rhedeg wedi dioddef aflonyddwch gan ddieithriaid tra'n rhedeg.

Yn ôl un fenyw sydd wedi siarad gyda Newyddion S4C, fe wnaeth rhywun boeri arni ac fe aeth drwy gyfnod lle'r oedd ganddi "ofn mynd allan", hyd yn oed yng ngolau dydd.

Mae Gwenlli Griffith, sydd y wreiddiol o Sir Fôn ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn dweud ei bod wedi colli cyfrif o'r nifer o weithiau mae pobl wedi ei haflonyddu wrth iddi redeg.

"Do, dwi 'di cael sawl gwaith, ac i fod yn hollol onest efo chdi, dwi 'di colli count o faint o weithiau dwi 'di cael un ai rhywun yn canu'r corn arna i, rhywun yn chwibanu neu dwi unwaith 'di cael rhywun hyd yn oed yn poeri arna i," meddai wrth Newyddion S4C.

"Es i trwy gyfnod hyd yn oed lle o'n i'n teimlo reit ofn i fynd allan, hyd yn oed pan oedd hi'n olau dydd oedd o'n digwydd."

Daw ei sylwadau wrth i arolwg gan Heddlu De Cymru ganfod bod 68% o redwyr benywaidd wedi bod yn destun rhyw fath o aflonyddu ar y stryd neu ymddygiad o gam-drin.

Roedd yr ymddygiad mwyaf cyffredin yn cynnwys heclo, sylwadau rhywiol, canu corn y car, arafu car wrth ymyl rhedwyr a chwibanu. Roedd rhai hefyd wedi profi ymosodiad corfforol neu rywiol.

Image
Gwenlli a'i ffrind Elain yn rhedeg yng Nghaerdydd
Gwenlli a'i ffrind Elain yn rhedeg yng Nghaerdydd

'Chwalu'r mwynhad'

Dywedodd Gwenlli fod ei phrofiadau wedi newid y ffordd mae'n mynd ati i redeg.

"Ti'n gorfod planio y llwybr roeddet ti'n mynd i gymryd oherwydd bod ti ddim yn siŵr, ti'n gwybod, os oedd rhywun yn mynd i ganu'r corn arna chdi neu os oedd yna ffordd falle doedd ddim yn mynd i fod yn saff iawn i fynd," meddai.

"Dwi'n mwynhau rhedeg a'r peth dwi'n cael allan o redeg mwya ydy gallu mynd allan a jyst gallu cymryd cam i ffwrdd o fywyd ac o waith hefyd.

"Ac mae cael y profiad hynny tra ti'n neud rhywbeth ti'n rili joio jyst yn chwalu'r mwynhad ti'n cael o redeg."

Ychwanegodd ei bod yn gwisgo dillad llachar ac yn mynd â thortsh gyda hi yn ystod y gaeaf, yn ogystal â defnyddio ei horiawr Garmin i ganiatáu i aelodau o'i theulu dracio ei lleoliad.

"Dw i wastad yn gadael 'y mhartner i hefyd wybod os dw i'n mynd allan, bod o hefyd yn gwybod hynny jyst rhag ofn bod rhywbeth yn digwydd.

"Mae gymaint o bethau ti'n gorfod ystyried i feddwl falle ti jyst isio mynd allan am ryw ugain munud, os na hanner awr, jyst i allu clirio dy ben."

Mae Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru bellach wedi lansio ymgyrch JogOn, sydd â'r nod o atal aflonyddu a cham-drin menywod a merched sy'n rhedeg.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Donna Llewellyn: "Am gyfnod rhy hir mae menywod wedi newid eu hymddygiad i deimlo'n ddiogel, ond o hyn ymlaen chi sy'n gorfod newid.

"Nid yw sylwadau sy'n dangos casineb at fenywod ac ymddygiadau ysglyfaethus yn dderbyniol yn ein cymunedau."

Clwb rhedeg

Roedd Gwenlli wedi bod yn ystyried sefydlu clwb rhedeg i fenywod ers rhai misoedd, ond dywedodd fod digwyddiad arall wedi ei hannog i fwrw ymlaen â'r syniad.

"Es i am run y noson cyn i fi ryddhau bod fi'n mynd i gynnal clwb a dyna'r pryd wnaeth dyn boeri arna i, so o'n i'n meddwl, 'reit, mae'n rhaid i fi ddechra hwn'."

Ychwanegodd fod bod mewn grŵp yn gwneud iddi deimlo'n fwy diogel, ond bod yr aflonyddu wedi parhau.

"Tra bod ni yn y clwb o'n na dipyn o bobl un ai yn chwibanu neu'n galw ni'n enwau a phetha.

"Ond o't ti'n teimlo bach fwy saff gan bod gen ti grŵp efo ti a bod ti ddim yn ben dy hun."

Mae Gwenlli, sy'n athrawes, yn credu bod angen trafod y mater yn fwy gyda phlant a phobl ifanc.

"Dw i'n meddwl bod angen siarad amdana'r peth yn fwy. Dwi ddim yn meddwl bod 'na ddigon o ymwybyddiaeth yn cael ei roi i'r peth ac, fel athrawes, rili, dw i'm yn gweld digon o'r pethau'n cael eu trafod mewn ysgolion chwaith."

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, fod gan bawb "yr hawl i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn eu bywydau beunyddiol nhw".

Ychwanegodd nad oes "lle i fygwth, heclo nac ymosod yn ein cymunedau" ac anogodd bobl i riportio achosion o aflonyddu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.