Etholiadau Lloegr: Starmer yn mynnu ei fod am barhau wedi i Lafur golli cannoedd o seddi
Mae Syr Keir Starmer wedi mynnu y bydd yn parhau fel Prif Weinidog er gwaethaf canlyniadau trychinebus i Lafur hyd yma yn yr etholiadau lleol yn Lloegr.
Fe wnaeth gydnabod ei bod wedi bod yn noson "anodd" i Lafur, ond dywedodd "nad yw dyddiau fel hyn yn gwanhau fy mhenderfyniad".
Roedd y Blaid Lafur wedi colli rheolaeth ar nifer o gynghorau yn Lloegr fore dydd Gwener wrth i Reform UK ennill dros 300 o seddi, wedi i’r cynghorau cyntaf gyhoeddi eu canlyniadau.
Wedi i 46 o 136 o gynghorau Lloegr ddatgan eu canlyniadau yn ystod oriau mân fore Gwener, Reform UK sydd ar y blaen gyda 406 o seddi.
Mae Llafur wedi ennill 253 o seddi, ond wedi colli 259, tra bod gan y Ceidwadwyr 262 ar ôl colli 171 hyd yma.
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar 260 o seddi, gyda'r Blaid Werdd yn dal 53 o seddi ar hyn o bryd.
Yn debyg i’r etholiadau yng Nghymru a’r Alban, mae disgwyl i ganlyniadau’r mwyafrif o etholiadau cynghorau a meiri Lloegr gael eu cyhoeddi yn ystod prynhawn dydd Gwener.
Mae arweinydd Reform, Nigel Farage, wedi disgrifio’r canlyniadau fel “newid hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Prydain”, gan awgrymu bod y blaid ar y trywydd i ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Er bod trafod ynghylch dyfodol Syr Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae’r Dirprwy Brif Weinidog, David Lammy, yn mynnu y bydd yn aros yn Rhif 10.
“Mae yna gwestiynau mae’n rhaid i ni eu hateb, ond nid o dan unrhyw amgylchiadau mai’r ateb i gwestiynau mae pobl Prydain yn eu codi yw newid arweinydd unwaith eto,” meddai.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, John McDonnell, bod yn rhaid i newid arweinydd fod “ar yr agenda” os yw “hunllef” Llafur yn cael ei gwireddu yn etholiadau’r Senedd a Holyrood.
“Bydd rhaid gweld pan fydd y canlyniadau’n dod i mewn, ac mae’n bosibl y bydd canlyniadau Cymru a’r Alban yn fwy dylanwadol na seddi cynghorau yn Lloegr wrth lunio agwedd y blaid at y dyfodol.
“Mae angen i’r blaid ystyried pam ein bod yn y sefyllfa yma, a dylai’r drafodaeth honno ddigwydd ar bob lefel o’r blaid a chynnwys pob mater. Ond mae’n anochel bod cwestiwn yr arweinyddiaeth ar yr agenda,” meddai Mr McDonnell.
Prif lun: Keir Starmer a Nigel Farage (PA)