Etholiad y Senedd: Arolwg newydd yn awgrymu bod Plaid Cymru a Reform benben
Mae arolwg newydd yn awgrymu bod Plaid Cymru a Reform UK benben yn y ras i fod y blaid fwyaf ar ôl yr etholiad.
Mae Reform UK wedi cynyddu ei chyfran o'r bleidlais, ac mae Plaid Cymru wedi gweld gostyngiad ers yr arolwg diwethaf gan YouGov, sy'n gosod y ddwy blaid bellach yn gyfartal ar 29%.
Yn ôl yr arolwg gan YouGov ar gyfer ITV Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, o dan y system bleidleisio d'Hondt newydd, mae'r canlyniadau y tro hwn yn golygu y byddai Reform yn ennill 37 sedd a Phlaid Cymru yn ennill 36.
Byddai hyn yn golygu bod y ddwy blaid yn brin o fwyafrif, gan sbarduno mwy o gwestiynau am gydweithio posibl â phleidiau eraill ar ôl yr etholiad ymhen ychydig dros bythefnos.
Mae’r arolwg yn rhagweld y bydd Llafur yn dal i fod yn y trydydd safle ar 13%, ac mae disgwyl iddyn nhw ennill deuddeg sedd, ond i’w harweinydd, Eluned Morgan, golli ei sedd.
Mae'r Blaid Werdd wedi gweld gostyngiad cymedrol yn eu cyfran i 10%, a fyddai'n golygu saith sedd iddyn nhw.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig i fyny un pwynt canran i 8%, a fyddai'n dod â thair sedd, er na fyddai'r rownd hon o ganlyniadau yn dychwelyd eu harweinydd, Darren Millar.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd i fyny un pwynt canran i 6%, a fyddai’n golygu ethol un aelod yn unig – eu harweinydd, Jane Dodds.
Bwriad pleidleisio’r Senedd (model MRP YouGov):
● Plaid Cymru 29 (-4)
● Reform UK 29 (+2)
● Llafur Cymru 13 (+/-)
● Plaid Werdd Cymru 10 (-2)
● Y Ceidwadwyr Cymreig 8 (+1)
● Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 6 (+1)
● Eraill 4 (n/c)
Rhaniad seddi yn y Senedd (model MRP YouGov):
● Reform UK 37 (+7)
● Plaid Cymru 36 (-7)
● Llafur Cymru 12 (n/c)
● Plaid Werdd Cymru 7 (-3)
● Y Ceidwadwyr Cymreig 3 (+2)
● Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 1 (+1)
Dadansoddiad o seddi’r Senedd (model MRP YouGov):
● Afan Ogwr Rhondda – Reform 3 , Plaid 2 , Llaf 1
● Bangor Conwy Môn – Plaid 3, Reform 2, Ceid 1
● Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - Reform 3, Plaid 2, Llaf 1
● Brycheiniog Tawe Nedd - Reform 2 , Plaid 2 , Llaf 1 , Dem Rhydd 1
● Caerdydd Ffynnon Taf - Reform 2 , Plaid 2 , Llaf 1, Gwyrdd 1
● Caerdydd Penarth – Plaid 3, Reform 1, Llaf 1, Gwyrdd 1
● Casnewydd Islwyn - Reform 2 , Plaid 2 , Llaf 1 , Gwyrdd 1
● Ceredigion Penfro - Plaid 3, Reform 2, Gwyrdd 1
● Clwyd - Plaid 3 , Reform 2 , Llaf 1
● Fflint Wrecsam - Reform 3 , Plaid 2 , Llaf 1
● Gwynedd Maldwyn - Plaid 3 , Reform 2 , Gwyrdd 1
● Gŵyr Abertawe – Reform 2, Plaid 2, Llaf 1, Gwyrdd 1
● Pen-y-bont Bro Morgannwg – Reform 2 , Plaid 2 , Llaf 1 , Ceid 1
● Pontypridd Cynon Merthyr - Reform 3 , Plaid 2 , Llaf 1
● Sir Fynwy Torfaen - Reform 2 , Plaid 1 , Llaf 1 , Gwyrdd 1 , Ceid 1
● Sir Gaerfyrddin - Reform 3, Plaid 3
Dywedodd Dr Jac Larner, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd: “Mae’r arolwg hwn yn dangos gostyngiad bach arall yn y gefnogaeth i Blaid Cymru, gan eu rhoi’n gyfartal â Reform UK ar 29%; dyma amcangyfrif isaf YouGov i Blaid Cymru ers mis Tachwedd 2024.
"Mae'n bwysig peidio darllen gormod i mewn i un arolwg barn.
“Ond ’oi gymryd ochr yn ochr â’r duedd ehangach yn yr arolygon barn, mae’r neges yn glir: mae’r ras i fod y blaid fwyaf yn parhau rhwng Plaid Cymru a Reform UK, gyda phob plaid arall – gan gynnwys Llafur, a oedd yn drech na neb yng ngwleidyddiaeth Cymru lai na dwy flynedd yn ôl – yn cystadlu am drydydd safle pell a’r safleoedd islaw hynny.”
Wrth edrych ar fwriadau pleidleisio San Steffan, mae Plaid Cymru yn parhau i fod y blaid fwyaf poblogaidd cyn Reform gyda chynnydd parhaus mewn cefnogaeth i'r Gwyrddion.
Bwriad pleidleisio San Steffan: (model MRP YouGov)
● Plaid Cymru 28 (-1)
● Reform UK 23 (-1)
● Plaid Werdd Cymru 16 (+2)
● Y Ceidwadwyr Cymreig 12 (n/c)
● Llafur Cymru 10 (-2)
● Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 6 (+1)
● Arall 5 (+1)
Roedd sampl o 2,387 o oedolion wedi eu holi ar gyfer Model MRP Bwriadau Pleidleisio Senedd YouGov. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng y 6ed a'r 15fed o Ebrill 2026.
Llun: Dan Thomas o Reform a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru.