Etholiad '26: Beth fydd yn digwydd ar ôl cyfri'r pleidleisiau?

Pleidiau gwleidyddol

Hyd yn oed ar ôl cyfrif y pleidleisiau ar 8 Mai, fydd stori’r etholiad ddim wedi dod i ben.

Yn syth ar ôl i’r canlyniadau gael eu datgan fe fydd pleidiau gwleidyddol Cymru yn dechrau trafod pwy fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf.

Ac ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, fe fydd gofyn iddyn nhw ddewis Prif Weinidog i Gymru o'r ymgeiswyr sy'n cael eu cynnig - fel arfer, arweinwyr y pleidiau mwyaf.

Os nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny o fewn 28 diwrnod, bydd rhai cynnal etholiad newydd.

Pa mor debygol yw hynny?

Wel, mae system cynrychiolaeth gyfrannol Cymru yn decach o ran dosbarthu seddi ond hefyd yn golygu ei bod yn anhebygol iawn y bydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif clir.

Hyd yma mae’r arolygon barn – a allai fod yn anghywir – yn awgrymu mai Reform neu Blaid Cymru sydd fwyaf tebygol o ennill y mwyaf o seddi, gyda'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a'r Blaid Werdd yn 3ydd naill ai'n agos neu pell, a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn ennill sedd neu dair.

Ond o’r 96 sedd sydd ar gael, mae’r arolygon barn hefyd yn awgrymu mai dim ond tua 27-36 o seddi fydd unrhyw blaid unigol yn llwyddo i’w hennill.

Mae hynny ymhell dan y trothwy o 49 o seddi fyddai eu hangen ar gyfer mwyafrif yn y Senedd a gallu ethol Prif Weinidog  a sefydlu llywodraeth yn ddi-wrthwynebiad.

Mae’n debygol felly y bydd angen i unrhyw blaid sydd am ethol Prif Weinidog a ffurfio llywodraeth gael cefnogaeth un neu fwy o’r pleidiau eraill er mwyn gallu ennill pleidleisiau yn y Senedd.

Image
Carwyn Jones yn chwysu
Bu'n rhaid i Carwyn Jones chwysu yn y Senedd yn 2016 ar ôl i Leanne Wood ei herio i fod yn Brif Weinidog

Oes rhaid cael llywodraeth glymblaid?

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd Plaid Cymru na Reform yn ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid arall.

O’r bron i 27 mlynedd y mae Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru, maen nhw wedi cynnal llywodraeth leiafrifol (minority government) y rhan fwyaf o’r amser, a hynny am dros 15 mlynedd.

Mae’n bosib y bydd Reform neu Blaid Cymru, neu pha bynnag blaid sy'n gallu gwneud hynny, eisiau ffurfio Llywodraeth leiafrifol ac yna dod i gytundebau gyda phleidiau eraill ar bob pleidlais yn unigol.

Mae’n bosib hefyd cytuno ar rywbeth rhwng y ddau begwn, fel y cytundeb cydweithio hirdymor rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru o 2021 hyd at 2024.

Doedd honno ddim yn glymblaid ond roedd yn gytundeb i gydweithio ar 46 o bwyntiau polisi.

Image
Cytundeb cydweithio Adam Price a Mark Drakeford yn 2021
Cytundeb cydweithio Adam Price o Blaid Cymru a'r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, yn 2021

Gyda phwy maen nhw’n debygol o drafod?

Hyd yn oed os mai nhw fydd y ddwy blaid fwyaf, mae’n anhebygol y bydd Plaid Cymru a Reform yn ffurfio unrhyw fath o bartneriaeth llywodraethu gyda’i gilydd.

Maen nhw’n anghytuno ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gyda Phlaid Cymru eisiau annibyniaeth yn yr hirdymor a Reform ddim yn meddwl bod angen rhagor o rymoedd ar Senedd Cymru.

Mae yna hefyd anghytundebau yn eu maniffestos ar bynciau fel y terfyn cyflymder 20mya, pwysigrwydd cyrraedd targedau sero net, a’r polisi Cenedl Noddfa sy’n anelu at integreiddio ceiswyr lloches.

Beth yw opsiynau Reform?

Os ydyn nhw am ffurfio llywodraeth mae Reform yn fwy tebygol o geisio partneru â’r Ceidwadwyr.

Mae maniffestos y ddwy blaid yn gorgyffwrdd o ran torri treth incwm yng Nghymru, gwrthwynebu 20mya, diwygio ardrethi busnes, a thorri ‘gwastraff’ yn y llywodraeth.

Y cwestiwn yw, a fydd gan y ddwy blaid gyda’i gilydd fwyafrif yn y Senedd. Hyd yma, mae arolygon barn wedi awgrymu mai Reform allai fod y blaid fwyaf, ond nid oes yr un arolwg wedi awgrymu y bydd gan Reform a’r Ceidwadwyr gyda’i gilydd 49 neu fwy o seddi.

Ar yr un pryd, mae’r pleidiau eraill mwyaf amlwg fel y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur wedi bod yn llym eu beirniadaeth o Reform, gan olygu nad ydyn nhw’n debygol o’u helpu i ddod i rym chwaith.

Image
Dan Thomas arweinydd Reform yng Nghymru a Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru
Dan Thomas arweinydd Reform yng Nghymru a Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru

Beth yw opsiynau Plaid Cymru?

Fe allai opsiynau Plaid Cymru fod ychydig yn ehangach oherwydd bod pob arolwg hyd yma yn awgrymu y bydd gan bleidiau’r tir canol a’r chwith fwyafrif yn y Senedd os ydyn nhw’n cydweithio gyda’i gilydd.

Mae’n deg dweud bod eu maniffestos yn awgrymu bod digon o le i gydweithio rhwng y pleidiau hyn.

Mae Plaid Cymru a'r Gwyrddion yn debyg ar newid hinsawdd, trafnidiaeth gyhoeddus, ac annibyniaeth.

Mae Plaid Cymru a Llafur ar dir tebyg ar ddiwygio'r GIG, gofal plant, sgiliau, a strategaeth ddiwydiannol.

Mae gan y tair plaid bolisïau tebyg ar rai pynciau fel tai cymdeithasol a’r Gymraeg.

Ond beth allai fod yn gur pen i Blaid Cymru yw y gallai’r blaid orfod wynebu clymbleidio â dwy neu hyd yn oed dair plaid arall.

Mae yna anghytundebau o fewn y pleidiau ar y chwith a'r canol hefyd, gyda’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu annibyniaeth, a gwahaniaeth barn rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur ar rai polisiau yn ymwneud ag amaeth.

Os yw un o’r pleidiau hynny’n penderfynu y byddai peidio â chydweithio yn gwneud mwy o les i’w gobeithion gwleidyddol hirdymor, yn y Senedd neu yn San Steffan, fe allai Plaid Cymru neu ba bynnag blaid arall sydd eisiau arwain y llywodraeth wynebu talcen caled iawn wrth gyflawni unrhyw beth yn y Senedd.

Image
Cymru'n Un
Ieuan Wyn Jones a Rhodri Morgan yn 2007. A allai Plaid Cymru a'r Blaid Lafur ffurfio Cymru'n Un Rhan Dau eleni? Llun: PA.

Gair o rybudd

Er bod yr arolygon barn yn awgrymu mai Reform neu Blaid Cymru fydd y pleidiau mwyaf yn y Senedd, mae’r union ganlyniad yn parhau i fod yn hynod ansicr.

Dyma’r tro cyntaf i etholiad gael ei gynnal yn y DU o dan yr union system cynrychiolaeth gyfrannol newydd a fydd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad ar 7 Mai.

Ar ben hynny, mae'r dirwedd wleidyddol yng Nghymru wedi newid yn sylweddol ers 2021, pan gafodd Reform 1.6% yn unig o’r bleidlais a Llafur a’r Ceidwadwyr oedd y ddwy blaid fwyaf.

Mae yna anghytuno mawr rhwng yr arolygon barn hefyd, gyda rhai fel YouGov yn rhoi Llafur ar gyn lleied â 12 sedd ac eraill fel More in Common yn eu gosod ar 25.

Yn syml, nid yw hyn yn oed y gwybodusion yn gwybod yn union beth fydd yn digwydd, ac fe allai pawb sy'n dilyn gwleidyddiaeth Cymru gael sioc sylweddol.

Yr unig sicrwydd ar hyn o bryd yw y bydd yna gryn grafu pen ar 8 Mai ynghylch sut yn union i fwrw ymlaen, a pha ffurf fydd ar lywodraeth nesaf Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.