Ethan Ampadu: 'Cyfle i wneud rhywbeth arbennig' yng Nghwpan yr FA

Llun: Reuters
Ethan Ampadu

Wrth i Leeds baratoi ar gyfer rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA mae eu capten Ethan Ampadu yn dweud bod gan y garfan "gyfle i wneud rhywbeth arbennig".

Y tro diwethaf i Leeds gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth oedd 53 mlynedd yn ôl yn 1973.

Bydd y clwb yn wynebu Chelsea, cyn-glwb Ampadu, yn Wembley ddydd Sul.

Mae Ampadu yn un o dri Chymro yn Leeds fydd yn gobeithio gallu cyrraedd y rownd derfynol, gyda Joe Rodon a Karl Darlow hefyd wedi chwarae'n rheolaidd i'r clwb y tymor hwn.

"Ar ddechrau'r gystadleuaeth, rydych chi'n tueddu i ffocysu ar fynd trwy un rownd ar y tro," meddai Ampadu cyn y rownd gyn-derfynol.

"Ond wrth i chi fynd ymhellach, yn naturiol rydych chi'n dechrau breuddwydio.

"Wrth gwrs dydyn ni ddim am edrych yn rhy bell ymlaen, mae ’na dal rownd gyn-derfynol heriol i'w chwarae."

Image
Karl Darlow, Ethan Ampadu a Joe Rodon cyn i Gymru wynebu Montenegro ym mis Medi 2024. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Karl Darlow, Ethan Ampadu a Joe Rodon cyn i Gymru wynebu Montenegro ym mis Medi 2024. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Enillodd Ampadu Gwpan yr FA yn 2018, er nad oedd wedi chwarae yn y rownd derfynol ei hun gan ei fod wedi dioddef anaf.

Er iddo ddweud bod y diwrnod yn un na fyddai'n ei anghofio, byddai chwarae yn y rownd derfynol yn "gamp arbennig iawn."

"Roeddwn i yn Wembley ar gyfer y rownd derfynol, felly roedd cael profi hynny yn hollol anhygoel," meddai.

"Ond byddai bod ar y cae a chyfrannu yn rhywbeth hollol wahanol. Byddai'n gamp anhygoel a gobeithio rhywbeth y byddwn i'n gallu ei brofi."

Dyw Leeds heb golli yn erbyn Chelsea y tymor hwn. Leeds oedd yn fuddugol 3-1 ym mis Rhagfyr y llynedd, a gêm gyfartal 2-2 gafwyd ym mis Chwefror.

Gyda chyfle i barhau â'r record honno ddydd Sul, mae Ampadu yn dweud bod gan y clwb "gyfle i wneud rhywbeth arbennig".

"Rydym yn gwybod bod gennym gyfle i wneud rhywbeth arbennig, ond mae'r ffocws ar y gêm o'n blaenau," meddai.

"Mae ’na dal timau cryf yn y gystadleuaeth, i gyd gyda'r un nod, sef ennill y cwpan.

"Ond i ni, y dasg yw paratoi'n gywir, perfformio'n dda a rhoi'r cyfle gorau i ni gyrraedd y rownd derfynol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.