Eogiaid Cymru ‘mewn argyfwng’ gyda phob afon sy'n cael ei monitro mewn perygl
Mae poblogaethau eogiaid yng Nghymru yn dal i fod ar lefelau sy'n peri pryder difrifol, meddai corff amgylcheddol.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod pob prif afon lle ceir eogiaid ac a aseswyd yng Nghymru wedi'i dosbarthu fel "mewn perygl" yn yr asesiad stoc blynyddol diweddaraf.
Mae hynny’n golygu bod poblogaethau eogiaid yn yr afonydd rheini yn “parhau i fod islaw'r lefelau angenrheidiol i roi hyder yn eu cynaliadwyedd hirdymor heb ymyrraeth barhaus a mesurau adfer”.
Dywedodd Dr Ben Wilson, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC bod y “darlun ar gyfer eogiaid yng Nghymru yn parhau i achosi cryn bryder.
“Mae pob un o'n hafonydd lle ceir eogiaid ac a gafodd eu hasesu bellach wedi'u dosbarthu fel rhai 'mewn perygl', ac mae niferoedd rhy fychan o eogiaid yn dychwelyd o'r môr i gynnal poblogaethau iach ar gyfer y dyfodol,” meddai.
"Rydym yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa honno, ac yn ei thrin gyda'r lefel haeddiannol o frys.
“Er nad oes ateb cyflym i rywogaeth sy'n wynebu pwysau yn y môr ac yn ein hafonydd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i adfer cynefinoedd, gwella llwybrau pysgod, cryfhau gallu afonydd i wrthsefyll a rhoi'r cyfle gorau posibl ar gyfer adferiad eogiaid.”
‘Helpu’
454 o eogiaid a gafodd eu dal â gwialen yng Nghymru yn ystod 2025 – gostyngiad o'r 812 a ddaliwyd yn 2024 a ffigwr sydd 60% yn is na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.
Mae eogiaid dan bwysau oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys newid hinsawdd, dirywiad cynefinoedd, rhwystrau i fudo a phroblemau ansawdd dŵr.
Mae'r pwysau hyn yn effeithio ar boblogaethau drwy gydol eu cylch bywyd ac maen nhw'n cael eu cydnabod fel rhai o'r bygythiadau mwyaf arwyddocaol i adferiad eogiaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae gwaith i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn parhau ledled Cymru trwy ystod o raglenni adfer a physgodfeydd.
Mae hynny’n cynnwys gwella mynediad at fwy na 50km o gynefin afon ar gyfer pysgod mudol, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Mae ein Strategaeth Pysgodfeydd sy’n gwrthsefyll yr Hinsawdd newydd yn darparu fframwaith clir ar gyfer y gwaith hwn,” meddai Dr Ben Wilson.
“Bydd yn ein helpu i ganolbwyntio ein hymdrechion lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf i boblogaethau pysgod, ecosystemau afonydd a'r cymunedau sy'n gofalu amdanynt."
Mae’r asesiad stoc eogiaid blynyddol yn cael ei gynhyrchu ar y cyd gan Cefas, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth i lywio penderfyniadau rheoli pysgodfeydd a chadwraeth ledled Cymru a Lloegr.