'Emosiynol ofnadwy': Diwedd cyfnod i Iolo Williams wedi 29 mlynedd o ffilmio gyda BBC Cymru
Mae'r naturiaethwr a'r cyflwynydd Iolo Williams wedi disgrifio'r profiad o ffilmio ei raglen olaf gyda BBC Cymru fel un "emosiynol ofnadwy", wrth i gyfnod o 29 mlynedd o ffilmio ddod i ben.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y cyflwynydd ei fod wedi gweithio gyda rhai aelodau o'r criw cynhyrchu ers dechrau ei gyfnod gyda'r BBC.
Mynegodd ei siom hefyd nad oes bwriad i gomisiynu rhaglenni pellach fel y rhai y mae wedi bod yn eu cyflwyno, gan bwysleisio pwysigrwydd addysgu'r genhedlaeth nesaf am fywyd gwyllt Cymru.
Daw hynny wrth i'r BBC geisio gwneud arbedion o £500m, gyda nifer o raglenni teledu a radio yn dod i ben o ganlyniad.
Er bod cyfnod o bron i dri degawd wedi dod i ben, mae'r naturiaethwr yn mynnu nad oes ganddo unrhyw fwriad i ymddeol.
"Dwi ddim yn ymddeol, na i byth ymddeol, na i farw ar y gwaith," meddai.
Fe wnaeth Iolo Williams ffarwelio â'r criw cynhyrchu ddydd Iau wedi iddyn nhw orffen ffilmio eu rhaglen olaf gyda'i gilydd.
"Dwi 'di gweithio efo rhai ohonyn nhw drwy gydol y naw mlynedd ar hugain," meddai.
"Mae ambell aelod o'r tîm wedi mynd ac eraill wedi dod, ond mae o leiaf dri ohonyn nhw wedi bod yna o'r dechrau un efo'n gilydd, felly roedd o'n emosiynol ofnadwy."
Fe ddechreuodd Iolo Williams ei gyfnod gyda BBC Cymru ym 1997 wrth weithio ar y gyfres Visions of Snowdonia, cyn iddo adael ei swydd gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) ym 1999 er mwyn dilyn gyrfa lawn amser yn y cyfryngau.
Ers hynny, mae wedi cyflwyno cyfres o raglenni sy'n dathlu bywyd gwyllt Cymru, gan gynnwys Wild Wales, Rugged Wales, Iolo's Great Welsh Parks ac Iolo's Pembrokeshire.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi crwydro Ynys Môn, y Gororau a chymoedd y de ar gyfer ei raglenni gyda BBC Cymru.
Yn gynharach eleni, cafodd ail gyfres Iolo's River Valleys ei darlledu, gyda'r naturiaethwr yn archwilio bywyd gwyllt ar hyd afonydd Wysg, Tywi, Teifi a Dyfrdwy.
Mae hefyd wedi bod yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd ledled y DU drwy gyflwyno rhaglenni Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch ar BBC Two.
'Dan ni'n glos iawn fel tîm'
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod gyda BBC Cymru, dywedodd mai un o'r profiadau oedd yn sefyll allan iddo oedd ffilmio ar gopaon y Carneddau yng nghanol y gaeaf.
"Roedd y tymheredd wedi gostwng i 14 gradd Celsius o dan sero yn ystod y gwaith ffilmio," meddai.
"Roedd ffilmio yn yr amgylchiadau yna yn anodd, i ddweud y lleia.
Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n ei golli fwyaf am ffilmio'r rhaglenni, doedd dim amheuaeth ganddo wrth ateb.
"Y tîm, heb os nac oni bai, y tîm," meddai.
"'Dan ni'n glos iawn fel tîm, ond hefyd cwrdd â phobl Cymru a gweld y bywyd gwyllt anhygoel sydd yn hongian ymlaen yng Nghymru hefyd."
'Dyfodol ansicr iawn'
Er iddo ganmol BBC Cymru am eu hymrwymiad i raglenni natur dros y tri degawd diwethaf, mynegodd Iolo Williams ei bryder am ddyfodol rhaglenni o'r fath.
Dywedodd ei bod yn hollbwysig bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddysgu am fyd natur ac i werthfawrogi'r amgylchedd o'u cwmpas.
"Mae mor bwysig bod ni'n addysgu'r to ifanc, bod ni'n cael nhw i fynd allan," meddai.
"'Dan ni'n sôn am iechyd meddwl, 'dan ni'n sôn am iechyd y corff hefyd.
"Wel, un o'r ffyrdd gorau i daclo hynna ydy bod ni'n hybu pobl ifanc i fynd allan, i gerdded, i siarad, i wrando, i wylio, i fwynhau byd natur.
"Mae'n biti bod nhw'n gadael rhaglenni sydd yn addysgu pobl am fywyd gwyllt, am amgylchedd Cymru, bod nhw'n gadael pethau fel yna i fynd."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru eu bod yn "blaenoriaethu comisiynu yn parhau i esblygu".
"Fel gweddill y BBC, mae BBC Cymru Wales yn parhau i wynebu pwysau ariannol sylweddol a dewisiadau anodd wrth i ni weithio i sicrhau'r gwerth gorau posibl i'n cynulleidfaoedd.
"Mae Iolo Williams wedi gwneud cyfraniad eithriadol i BBC Cymru Wales dros bron i dri degawd, gan ysbrydoli cenedlaethau o wylwyr drwy ei angerdd dros fywyd gwyllt, yr amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar am bopeth y mae wedi'i gynnig i'r gynulleidfa yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Er bod ein blaenoriaethau comisiynu yn parhau i esblygu, rydym yn gobeithio parhau â'n perthynas ag Iolo yn y dyfodol, a byddem yn croesawu cyfleoedd i gydweithio ar brosiectau ar gyfer BBC Cymru Wales sy'n denu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled Cymru."
Pryder am ddyfodol bywyd gwyllt
Wrth drafod y newidiadau y mae wedi eu gweld i fyd natur dros y blynyddoedd, dywedodd Iolo Williams ei fod yn bryderus iawn am ddyfodol bywyd gwyllt Cymru.
Fe feirniadodd hefyd ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu'r amgylchedd.
"Y Llywodraeth sydd yn fy mhoeni i'n bennaf," meddai. "Mae diffyg ymrwymiad Llywodraeth Prydain i ddiogelu'r amgylchedd, edrych ar ôl yr amgylchedd ac i ddod â rhai o'r poblogaethau yma yn ôl i lle dylen nhw fod.
"Dyna sydd yn fy mhoeni i'n fwy nag unrhyw beth arall."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.
Er bod ei gyfnod o ffilmio'r rhaglenni gyda BBC Cymru wedi dod i ben, mae Iolo Williams yn gobeithio y bydd cyfleoedd pellach iddo gyflwyno rhaglenni natur yn y dyfodol.
Mae'r naturiaethwr hefyd wedi cyflwyno nifer o gyfresi ar S4C dros y blynyddoedd, gan gynnwys Iolo: Natur Bregus Cymru a Nôl o'r Dibyn, a gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ym mis Ebrill eleni.
"Does gen i ddim bwriad ymddeol o gwbl," meddai.
"Gawn ni weld beth ddaw. Mae 'na bethau ar y gweill. Gobeithio bydd 'na raglenni eraill i sianeli gwahanol."

